Llangollen yw’r diweddaraf i elwa o fuddsoddiad canolfannau hamdden
Mae’r buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau hamdden ar draws Dyffryn Dyfrdwy a chymunedau ehangach Sir Ddinbych yn mynd yn ei flaen, gyda chyfleusterau sydd wedi eu huwchraddio yng Nghanolfan Hamdden Llangollen yn awr ar agor i’r cyhoedd.
Mae'r gwaith uwchraddio diweddaraf yn y Ganolfan wedi canolbwyntio ar yr ystafell ffitrwydd, ac yn cynnwys cyflwyno offer cardio Technogym newydd, yn ogystal â thechnoleg cwmwl Lles sy'n galluogi pobl i wylio fideos a rhaglenni wrth hyfforddi. Mae'r ystafell hefyd wedi ei gweddnewid ac wedi ei hail addurno yn llwyr. Hefyd mae llawr newydd wedi ei osod.
Dyma'r cynllun diweddaraf i fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden yn Nyffryn Dyfrdwy. Dim ond y llynedd yr adnewyddwyd y cae pob tywydd yng Nghanolfan Hamdden Corwen, yn ogystal â buddsoddiad yn yr ystafell ffitrwydd.
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth: “Dyma garreg filltir bwysig arall yn ein hymdrechion i ehangu ein cyfleusterau hamdden ar draws y sir.
“Rydym yn wirioneddol falch o’n buddsoddiad mewn hamdden, ar adeg pan fo awdurdodau eraill yn cau cyfleusterau neu’n eu trosglwyddo i gwmnïau preifat.
“Rydym yn gweld y budd gwirioneddol i iechyd a lles pobl ac rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion ar draws y sir i sicrhau fod disgyblion, yn ogystal â’r gymuned ehangach yn elwa o’r cyfleusterau a’r dechnoleg hamdden ddiweddaraf.
“Rydym yn gobeithio y bydd defnyddwyr hamdden yn Llangollen, aelodau presennol a newydd, yn manteisio ar y cyfleusterau gwych yn y Ganolfan.
Peidiwch ag anghofio trefnu eich sesiwn un i un am ddim gydag aelod o'n tîm o hyfforddwyr gwych. Gallan nhw adnewyddu eich rhaglen, dangos yr amrywiaeth newydd o gyfarpar i chi a'ch helpu i osod eich cyfrif cloud.