Y Cyngor yn ennill Gwobr 'Hearts for the Arts' 2018
Cyhoeddwyd yr enillwyr ar gyfer yr Ymgyrch Genedlaethol dros y Celfyddydau, Gwobrau ‘Hearts For The Arts’ 2018.
Mae’r gwobrau yn dathlu gwaith y Cynghorau, Cynghorwyr a Swyddogion Cyngor sydd wedi goresgyn heriau ariannol i sicrhau fod y celfyddydau yn aros yng nghanol bywyd cymunedol.
Mae ‘Ymgolli mewn Celf’ gan y Cyngor Sir wedi’i enwi fel Prosiect Celfyddydau Awdurdod Lleol Gorau am Annog Cydlyniad Cymunedol.
Mae Ymgolli mewn Celf yn brosiect celfyddydau gweledol ar gyfer pobl gyda dementia a’u gofalwyr. Nôd y prosiect yw archwilio swyddogaeth y celfyddydau gweledol wrth fynd i’r afael â’r materion a all effeithio pobl sy’n dioddef gyda dementia, gan gynnwys ynysu cymdeithasol, hyder, cyfathrebu ac ansawdd bywyd. Datblygwyd y prosiect gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor a’i brosiect ymchwil Dementia a Dychymyg. Mae yna ddau grŵp yn rhedeg yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd, un yn Y Rhyl a’r un arall yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth: “Hoffwn longyfarch y Gwasanaeth Celf a’u tîm am y prosiect gwerth chweil hwn, mae ymchwil wedi dangos bod cymryd rhan mewn prosiect creadigol yn gallu gwella hwyliau a hyder y rhai sy’n cymryd rhan a gwneud iddynt deimlo eu bod yn perthyn i gymuned.
“Mae’r elfen integreiddio gydag ysgolion lleol hefyd yn ychwanegiad bendigedig.”
Dywedodd Siân Fitzgerald, Swyddog Celfyddydau Cymunedol: “Ar ran y Gwasanaeth Celfyddydau, rwyf wrth fy modd yn derbyn y wobr hon a hoffwn ddiolch i’r tîm artistig oedd yn cymryd rhan a’r holl gyfranogwyr sydd wedi bod yn rhan annatod o’r prosiect.
“Hefyd hoffwn gydnabod y gefnogaeth a’r arbenigedd rydym wedi’i dderbyn gan Ganolfan Grefft Rhuthun, Cyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Bangor.”