Mae disgyblion Ysgol Glan Clwyd wedi helpu i ddatblygu mwy o help i natur yn yr ysgol.

Mae disgyblion wedi gosod gwreiddiau ar gyfer ardal goetir newydd ar dir yr ysgol wrth weithio gyda cheidwaid a swyddogion bioamrywiaeth Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor.

Bu’r bobl ifanc yn cymryd rhan yn y gwaith sy’n mynd rhagddo ar draws ysgolion y sir i helpu i gynyddu bioamrywiaeth a chanopïau coed i helpu adferiad natur a darparu ardal awyr agored lles addysgol i’r disgyblion.

Mae Ysgol Glan Clwyd yn un o wyth ysgol a fydd, at ei gilydd, yn derbyn mwy na 8,000 o goed, yn cynnwys gwrychoedd a choed ffrwythau, er mwyn darparu gwell ardaloedd cynefin i gefnogi natur leol, yn ogystal â mannau awyr agored ar gyfer dysgu er mwyn helpu lles disgyblion.

Mae’r gwaith hwn wedi cael cyllid gan grant o £800,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae’r gwaith plannu coed eleni mewn ysgolion hefyd yn ategu ymdrech y Cyngor i leihau ôl troed carbon y sir drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno).

Bydd cynyddu’r canopi coetir yn Ysgol Glan Clwyd ac ysgolion eraill yn helpu i wella ansawdd aer, oeri gwres trefol, gwella lles corfforol a meddyliol ar gyfer disgyblion a staff, ac ardaloedd o ddiddordeb cymysg ar gyfer addysg a chwarae.

Mae timau Bioamrywiaeth a Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn parhau i weithio gydag ysgolion drwy gydol y flwyddyn i helpu i ddatblygu ardaloedd ar dir ysgolion i gefnogi natur ymhellach, a’r dysgu a lles i ddisgyblion a staff.

Yr wythnos hon, mae mwy na 2,400 o goed yn cael eu plannu yn Ysgol Glan Clwyd, cymysgedd o rywogaethau coetir llydanddail cynhenid a choed ffrwythau lleol Cymreig.