Pleidleisio mewn etholiadau
Mae angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.
Mae hyn yn berthnasol i:
- Etholiadau seneddol y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol, isetholiadau a deisebau adalw
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru neu etholiadau cynghorau lleol.
Ffurfiau ID Ffotograffig a dderbynnir
Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r mathau canlynol o ID ffotograffig a dderbynnir wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.
Teithiau rhyngwladol
- Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth AEE neu o wledydd y Gymanwlad (gan gynnwys Cerdyn Pasbort Gwyddelig)
Gyrru a Pharcio
- Trwydded yrru a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE (mae hyn yn cynnwys trwydded yrru dros dro)
- Bathodyn Glas
Teithio lleol
- Pàs Bws Person Hŷn a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Pàs Bws Person Anabl a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Cerdyn Oyster 60+ a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Pàs Freedom
- Cerdyn Hawl Cenedlaethol yr Alban a roddwyd at ddibenion teithio rhatach (gan gynnwys Pàs bws 60+, anabl neu rai dan 22 oed)
- Cerdyn Teithio Rhatach i bobl 60 oed a hŷn a gyhoeddir yng Nghymru
- Cerdyn Teithio Rhatach i bobl anabl a gyhoeddwyd yng Nghymru
- SmartPass i Bobl Hŷn a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass i bobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass Anabledd Rhyfel a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass 60+ a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass Hanner Pris a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
- Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)
Dogfennau eraill a gyhoeddwyd gan y llywodraeth
- Dogfen mewnfudo fiometrig
- Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
- Cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddir gan wladwriaeth AEE
- Cerdyn Adnabod Etholiadol a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
- Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
- Dogfen Etholwr Dienw
Dim ond un math o ID ffotograffig y bydd angen i chi ei ddangos. Mae angen iddo fod yn fersiwn wreiddiol ac nid llungopi.
ID ffotograffig nad yw’n gyfredol
Gallwch ddal defnyddio eich ID ffotograffig os nad yw’n gyfredol, cyhyd â’i fod yn dal yn edrych yn debyg i chi.
Dylai’r enw ar eich ID fod yr un enw a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru i bleidleisio.
Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir
Gallwch wneud cais am ddogfen adnabod pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr; https://www.gov.uk/apply-for-photo-id-voter-authority-certificate
Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio cyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Newidiadau i Bleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy
Gallwch nawr wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post ac ar gyfer rhai mathau o bleidleisio drwy ddirprwy. Mae'r newidiadau hyn yn berthnasol i etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys is-etholiadau a deisebau adalw, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Gofynnir i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol wrth wneud cais, i brofi pwy ydych.
Mae terfynau ar faint o bobl y gall pleidleisiwr weithredu fel dirprwy ar eu rhan. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar gyfer dau berson sy'n byw yn y DU y gallwch chi weithredu fel dirprwy. Os ydych yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer pobl sy'n byw dramor, gallwch weithredu fel dirprwy ar gyfer hyd at bedwar o bobl ond dim ond dau o'r rhain y gellir eu lleoli yn y DU.
Nid yw’r newidiadau’n berthnasol i etholiadau Senedd Cymru a chynghorau lleol yng Nghymru. Ar gyfer yr etholiadau hyn bydd angen i chi lenwi ffurflen gais bapur o hyd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pleidleisio-ac-etholiadau/ffyrdd-i-bleidleisio neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0800 328 0280.