Mae'r tŷ tref ffrâm bren chwil-chwâl sy'n cynnig dros 500 mlynedd o hanes i ymwelwyr o dan yr un to a’r gerddi cudd hardd, yn llawn arddangosfeydd, gweithgareddau a llwybrau newydd diweddar, wedi'u cynllunio i adrodd hanes diddorol yr atyniad hanesyddol hwn, mewn ffyrdd newydd a rhyngweithiol.
Un o brif uchafbwyntiau ar gyfer 2025 yw cyflwyno arogleuon hanesyddol. O ganhwyllau gwerog myglyd yn yr ystafell ganoloesol, i fara ffres yn y gegin a rhosod cain yn yr ystafell wely Georgaidd, mae persawr atgofus yn ychwanegu at y profiad ymgolli, gan ategu'r gwisgoedd cyfnod, seinweddau, a gweithgareddau ymarferol sy'n helpu i ddod â hanes Nantclwyd y Dre yn fyw.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: "Edrychaf ymlaen at Nantclwyd y Dre yn agor y drysau unwaith eto. Mae'n ddarn hanfodol o hanes Rhuthun ac yn wir Sir Ddinbych. Mae'r tŷ tref, tawelwch y gerddi yn rhai o'r rhesymau dros ymweld â Nantclwyd y Dre a byddwn yn eich annog chi i gyd i wneud hynny."
Meddai Kate Thomson, Rheolwr Safle Nantclwyd y Dre: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr yn ôl am dymor arall. Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr brwdfrydig yn rhoi'r cyffyrddiadau olaf i'r ffyrdd newydd sydd gennym i ymwelwyr archwilio'r tŷ a'r gerddi - ni allwn aros i weld ymwelwyr yn eu mwynhau!"
Wedi'i gynllunio i wneud hanes yn 'ymarferol', mae profiad unigryw ymwelwyr Nantclwyd y Dre yn cynnig digon o ffyrdd i ymwelwyr o bob oed ddysgu am y tŷ a phrofi sut beth oedd bywyd bob dydd i'r cymeriadau a fu'n byw ac yn gweithio yma. Yn dal statws Trysor Cudd, achrediad Plant mewn Amgueddfeydd a sgôr o 4.5 seren ar TripAdvisor, mae Nantclwyd y Dre yn cynnig taith bleserus iawn i selogion hanes a theuluoedd fel ei gilydd.

Bydd Nantclwyd y Dre ar agor rhwng 10.30am a 4.30pm (mynediad olaf 3.30pm), dydd Iau – dydd Sadwrn tan 30 Medi 2025. Am fanylion llawn am oriau agor a phrisiau tocynnau, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/treftadaeth.