llais y sir

Llais y Sir: Hydref 2024

Chwilota yn ennyn manteision llesol byd natur

Mae digwyddiad chwilota mewn gwarchodfa natur yn y Rhyl wedi ennyn gwybodaeth ynghylch y manteision y gall y safle eu cynnig i fodau dynol.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â Natur er Budd Iechyd i helpu pobl i fwynhau’r awyr agored er lles corfforol a meddyliol, drwy wneud mwy o weithgareddau corfforol y tu allan. 

Mae Natur er Budd Iechyd yn brosiect cydweithredol sy’n cydweithio gydag unigolion a chymunedau i amlygu sut y gall mynediad at natur wella iechyd a lles. Mae’r Rhaglen Natur er Budd Iechyd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU.

Dan arweiniad Leah Apostolou o’r sefydliad Living Wild, aeth grŵp ar daith i warchodfa natur Parc Bruton i ddysgu sut i chwilota am blanhigion a ffrwythau ar y safle, a allai fod o fudd i’w hiechyd eu hunain. 

Gan ganolbwyntio ar y llwybrau ar y safle, eto er mwyn helpu eu lles corfforol, dysgodd y grŵp sut y gellir defnyddio’r ffrwythau ar y safle, gan gynnwys mwyar duon, afalau ac eirin duon i gefnogi eplesiad diod iach a naturiol.

Bu iddynt ddarganfod hefyd bod modd defnyddio egroes, aeron y ddraenen wen a moch coed ar gyfer helpu i greu seidr tân, a dyna oedd y dasg ar eu cyfer y tu allan ar ôl chwilota o amgylch Parc Bruton. 

Gan gymysgu eu dewis o gynhwysion mewn jar gyda finegr seidr afal, bu i’r grŵp greu eu diod seidr tân eu hunain, y dywedir ei fod yn darparu buddion naturiol i’r system imiwnedd, gan ddefnyddio’r eitemau a ddarparwyd gan y warchodfa natur y gwnaethant chwilota amdanynt. 

Meddai Sasha Taylor, Ceidwad Cefn Gwlad Sir Ddinbych: “Roedd hi’n wych gweld faint o ffrwythau a blodau bwytadwy y mae’r safle’n eu cefnogi. Roedd gwybodaeth Leah yn golygu ein bod hefyd yn gallu nodi a chasglu rhywogaethau a gwahanol rannau o blanhigion nad oedd yn cael sylw o’r blaen, sy’n darparu manteision lu o ran iechyd. Roedd hyn yn cynnwys gwreiddiau’r planhigyn mapgoll, sydd â nodweddion  gwrthlidiol, antiseptig, tynhaol a chwysol”.

“Roedd cael arbenigedd Leah ar y safle yn caniatáu i ni gasglu ystod o blanhigion a ffrwythau meddyginiaethol yn ddiogel. Yna, fe ddefnyddiwyd y deunyddiau y bu iddynt chwilota amdanynt i wneud tonigau seidr tân unigol yn benodol ar gyfer y buddion a oedd yn cael eu ffafrio gan bob unigolyn. Gall tonigau fel y rhain fod yn ddewis arall gwych i dabledi fitaminau safonol gan eu bod yn cynnwys llu o sylweddau synergyddol a all helpu'r corff i amsugno a phrosesu fitaminau yn fwy effeithiol. Roedd cymryd amser i gasglu’r planhigion yn ofalus wrth i ni gerdded o amgylch y safle hefyd yn ein galluogi i elwa o fanteision iechyd corfforol a meddyliol bod allan ym myd natur.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae mynd tu allan a phrofi’r safleoedd gwych sydd gennym ni yn y sir yn bwysig iawn i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol, ac rydym ni’n ddiolchgar iawn i Natur Er Budd Iechyd am ddarparu’r cyfle gwych yma i ddysgu mwy am y planhigion o’n cwmpas yn yr ardaloedd pwysig hyn i fyd natur a chymunedau lleol.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...