llais y sir

Llais y Sir: Hydref 2024

Ymdrechion ffermwyr yn helpu i ddiogelu'r Gylfinir

Mae ffermwyr wedi cael diolch am eu cefnogaeth yn ystod blwyddyn gyntaf prosiect sydd â’r nod o ddiogelu aderyn dan fygythiad.

Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cymryd rhan ym mhrosiect “Cysylltu Gylfinir Cymru”, prosiect partneriaeth Adfer y Gylfinir yng Nghymru sy’n gweithio gyda Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helfeydd a Bywyd Gwyllt.

Mae hyn o dan brosiect partneriaeth Cymru gyfan, Gylfinir Cymru sydd â’r nod o roi hwb i’r gylfinirod sy’n magu ledled y wlad, gan gynnwys Sir Ddinbych.

Mae’r gylfinir dan fygythiad enbyd ac fe’i rhoddwyd ar y ‘Rhestr Goch’ Adar o Bryder Cadwraethol Cymru a’r Deyrnas Unedig. Ers y 1990au, mae mwy nag 80 y cant o’r boblogaeth gylfinirod sy’n magu wedi diflannu yng Nghymru.

Mae nifer o resymau am y dirywiad, gan gynnwys colli cynefin, pwysau yn ystod y tymor nythu ac effaith anifeiliaid eraill yn eu lladd.

Mae gwaith cydweithredol yn digwydd ar draws ardal Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ddiogelu’r adar sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae’r ardal hon yn cynnwys rhannau mawr o Sir Dinbych yn ogystal a rhannau o Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae’r Swyddog Gylfinirod a Phobl Lleol, Sam Kenyon, wedi arwain y prosiect ac wedi canmol y gefnogaeth a gafwyd gan yr holl ffermwyr a gymerodd ran yn y prosiect yn ystod y tymor bridio cyntaf.

Daethpwyd o hyd i tua 30 pâr o gylfinirod a chodwyd ffensys trydanol o amgylch rhaid nythod i ddiogelu’r wyau rhag ysglyfaethwyr.

Mae cyfraniad yr holl ffermwyr at ymdrechion i roi cyfle i’r aderyn prin hwn wedi bod yn  ‘galonogol ac wedi gwneud gwahaniaeth mawr’ yn ôl Sam. Dywedodd: “Mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig gweld ffermydd drws nesa i’w gilydd yn cydweithio i ddiogelu’r aderyn eiconig hwn ac i geisio gwarchod nythod ar eu tir.

Fe aeth rhai ati i ddiogelu’r nythod hollbwysig yma ac i gefnogi’r prosiect yn ei gyfanrwydd drwy ymdriniaeth cae unigol, sydd yn ymrwymiad gwirioneddol yr ydw i’n ei werthfawrogi’n fawr iawn. Yn ogystal cytunodd rhai ffermwyr i oedi torri porthiant yn y caeau er mwyn diogelu’r adar, gan olygu eu bod yn hwyr yn cael bwyd da ar gyfer eu hanifeiliaid.

Drwy’r prosiect rydym wedi gallu talu’n ôl i’r ffermwyr am eu cefnogaeth werthfawr drwy eu digolledu gyda chyllid a gawsom gan Lywodraeth Cymru, i wneud yn iawn am yr oedi mewn torri porthiant. Ond yr hyn sydd wedi sefyll allan fwyaf yw ymrwymiad ein ffermwyr i ddiogelu’r aderyn prin hwn ar eu tir.”

Ychwanegodd Sam: “Heb eu cefnogaeth, eu gwybodaeth a’u gwyliadwriaeth nhw fydden ni ddim wedi dod o hyd i’r nythod i’w diogelu ac i leihau effaith ysglyfaethu ar yr wyau.

Mae wedi bod yn wych cydweithio â’r ffermwyr a gweithio fel tîm i helpu i ddiogelu rhai a adar mwyaf hanesyddol Cymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae hwn yn brosiect pwysig i ddiogelu aderyn a oedd unwaith i’w weld yn gyffredin nid yn unig yn Sir Ddinbych a Gogledd Cymru ond ar draws y DU. Rydym yn ddiolchgar bod y prosiect a’r cyllid hwn yn caniatáu i Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fwrw ‘mlaen go iawn â gwaith i ddiogelu’r gylfinir, gan annog poblogaethau i oroesi a, gobeithio i ffynnu yn y dyfodol.

Rydym yn hefyd yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth aruthrol mae’r prosiect hwn wedi’i gael gan y gymuned ffermio sydd wedi gweithio gyda’r tîm bach o wirfoddolwyr ochr yn ochr a’r swyddog arweiniol i warchod yr aderyn pwysig hwn. Mae ffermwyr sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect wedi rhoi cyfle hollbwysig y tymor yma i’r aderyn dan fygythiad hwn ac rydym yn edrych ymlaen at y tymor nesaf.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...