Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych
Bydd technolegau newydd a chyfleoedd newydd ar y gweill yn Fforwm Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych, a gynhelir ddydd Mercher 16 Hydref yng Ngwesty’r Oriel, Llanelwy.
Ymlaen rhwng 10.30am - 1.30pm, mae’r Fforwm yn gyfle gwych i gynrychiolwyr glywed am y datblygiadau twristiaeth diweddaraf a chyfarfod â busnesau eraill â’r un feddylfryd a rhannu profiadau.
Ymhlith y siaradwyr gwadd mae Joe Bickerton, Rheolwr Twristiaeth Cyngor Bwrdeistref Wrecsam, fydd yn tynnu sylw at gyfleoedd teithio newydd i’r sector yn Sir Ddinbych a grëwyd oherwydd proffil rhyngwladol newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Ymhlith y siaradwyr eraill mae Rhian Hughes, Swyddog Digidol Trefi Smart, fydd yn disgrifio sut y gellir defnyddio gwybodaeth o ddata electronig i reoli asedau, adnoddau a gwasanaethau’n effeithlon ac yn ei dro, gellir ei ddefnyddio i wella gweithrediadau a ffyniant yn y trefi i’r dyfodol, a Ceri Lloyd, Swyddog Datblygu, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Bydd Ceri yn egluro’r rhesymau pam bod yr holl Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru a Lloegr yn dod yn Dirweddau Cenedlaethol.
Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi Sir Ddinbych, gan fod cyfanswm yr effaith economaidd yn £736 miliwn yn 2023, 17% yn fwy na’r flwyddyn flaenorol. Mae nifer yr ymwelwyr yn Sir Ddinbych hefyd yn parhau i dyfu, gyda ffigwr 2023 yn 6.4 miliwn.
Bydd nifer o stondinau gwybodaeth yn cynnwys Busnes Cymru, Y Ffederasiwn Busnesau Bach, Canolfan Sgiliau Coetir, Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych, Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Trefi Smart, Sir Ddinbych yn Gweithio, Twristiaeth Sir Ddinbych ac Eisteddfod Genedlaethol Llangollen.
Dywedodd Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae twristiaeth yn ddiwydiant hanfodol, sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn Sir Ddinbych.
Mae ein hymwelwyr yn dod i gael blas o’n diwylliant a’n treftadaeth ac archwilio ein mynyddoedd a’n harfordir. Mae gan Sir Ddinbych gymaint i’w gynnig, i gyd mewn un sir.”
Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych:
“Rydym wedi trefnu tri siaradwr gwych ar gyfer y fforwm, pob un ohonynt yn awyddus i rannu eu gwybodaeth gyda’r sector. Fel arfer, rydym yn estyn croeso i bawb sy’n rhan o’r diwydiant twristiaeth a hefyd unrhyw un sy’n dymuno cael gwybodaeth go iawn am y diwydiant bywiog a hanfodol hwn.”
Archebwch eich lle AM DDIM drwy glicio ar y ddolen yma.