llais y sir

Llais y Sir: Hydref 2024

Ffair swyddi lwyddiannus arall wedi’i chynnal gan Sir Ddinbych yn Gweithio

Ym mis Medi, mynychodd mwy na 400 o bobl ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl.

Cafwyd arddangosfa gan fwy na 50 o fusnesau ac yn eu plith roedd enwau sy’n adnabyddus yn genedlaethol megis Clwyd Alyn, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Asda, Alpine Travel, Cyfreithwyr Gamlins a Balfour Beatty.

Roedd y digwyddiad rhad ac am ddim yn gyfle i bobl ddi-waith a phobl sy’n ystyried newid gyrfa weld pa gyfleoedd amrywiol o ran cyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau sydd ar gael yn lleol ac y gellir gwneud cais amdanynt.

Trefnodd y tîm awr dawel yn ystod y digwyddiad ar gyfer pobl a fyddai o bosibl yn gwerthfawrogi awyrgylch tawelach. 

Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio Cyngor Sir Ddinbych yw cydlynu cymorth sy’n helpu pobl i ganfod gwaith drwy gael gwared ar rwystrau. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych i gael gwaith a/neu i ddatblygu eu sgiliau gyda hyfforddiant am ddim.

Meddai Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol: “Roeddem yn hynod falch o weld niferoedd uchel unwaith eto yn ein Ffair Swyddi ddiweddaraf. Mae’n dyst i waith caled ein tîm ac ymrwymiad busnesau a gwasanaethau lleol i gefnogi ein cymuned.

“Mae digwyddiadau o’r fath yn cysylltu pobl sy’n chwilio am waith gyda chyflogwyr posibl, yn ogystal â galluogi unigolion i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae llwyddiant y Ffair Swyddi yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio rhwng sefydliadau lleol a’r Cyngor. Drwy roi llwyfan i gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth o ansawdd uchel, rydym yn helpu i gael gwared ar rwystrau a chreu dyfodol mwy disglair ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac i ddysgu mwy am Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i'n gwefan.  

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...