llais y sir

Llais y Sir: Mai 2021

Gwaith y Tîm Ceidwaid yn ystod y Cyfnod Clo

Mae’r cyfnod clo wedi bod yn gyfnod anodd ac anghyffredin i nifer fawr o bobl, fodd bynnag, mae gwaith wedi parhau i fynd rhagddo yn yr AHNE er mwyn cynnig ardal ddiogel a dymunol y gall y cyhoedd a bywyd gwyllt ei mwynhau.

Mae’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n ymweld â’r parciau wedi rhoi cyfle i’r tîm ceidwaid ymgymryd â gwaith gwella hanfodol i lwybr y Lît ym Mharc Gwledig Loggerheads. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys darparu arwyneb llyfn a hygyrch yr holl ffordd at y ffordd, sy’n cynnig mynediad llawer gwell at Geudwll y Diafol. Mae llawer o waith hefyd wedi’i gwblhau yn gosod arwyneb newydd ac ymestyn y meysydd parcio ym Moel Famau, yn ogystal â chyflwyno peiriannau tocynnau parcio newydd sy’n derbyn taliadau cerdyn. Gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn cynnig profiad mwy dymunol i ymwelwyr pan fyddant yn dychwelyd i’r parc. Cwblhawyd gwaith ffensio o amgylch y parc gwledig i ddiogelu’r llwybr bregus rhag erydiad yn sgil y nifer uchel o bobl sy’n ymweld â’r parc. Yn ogystal â hyn, gwnaethpwyd gwelliannau i’r ffens derfyn er mwyn helpu i atal cŵn rhag crwydro i diroedd fferm cyfagos ac aflonyddu da byw. Cofiwch y dylid cadw cŵn dan reolaeth bob amser.

Mae’r tîm ceidwaid wedi gweithio’n galed i wella’r AHNE er lles y bywyd gwyllt. Aethpwyd ati i wneud hyn drwy glirio gordyfiant a defnyddio dulliau pori er lles cadwraeth i reoli’r lleoliadau hyn, ein cynllun yw datblygu’r safleoedd hyn yn ddolau blodau gwyllt cynhyrchiol â chyfoeth o rywogaethau amrywiol ac felly rydym yn edrych ymlaen at ddechrau monitro rhywogaethau a gwylio’r cynnydd dros y blynyddoedd nesaf. Ym Mharc Gwledig Loggerheads, mae gwaith wedi’i gwblhau i ymestyn adrannau o’r calchbalmant er mwyn caniatáu rhagor o oleuni a chreu cynefin addas y gall amrywiaeth enfawr o blanhigion, ymlusgiaid a mamaliaid elwa ohono. Yn ogystal â hynny, cwblhawyd rhaglen o waith gwella a gosod bocsys nythu adar newydd ar draws y parc gwledig, roedd hyn yn cynnwys arolwg o rywogaethau a oedd wedi bod yn eu defnyddio a gwerthusiad o welliannau posibl. Yn olaf, mae’r tîm wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol a’r Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid i adfywio pyllau presennol a chreu pyllau newydd ar gyfer ystod o rywogaethau, gan ganolbwyntio’n arbennig ar y Fadfall Ddŵr Gribog.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...