llais y sir

Llais y Sir: Mai 2021

Cynllun Rheoli Cyrchfan

Gyda newidiadau pellach i gyfyngiadau Covid-19 wedi dod i rym yng Nghymru, mae'r Cyngor wedi datblygu Cynllun Rheoli Cyrchfan i sicrhau bod safleoedd a chyfleusterau allweddol yn barod i groesawu ymwelwyr a bod trigolion lleol yn teimlo’n ddiogel ac yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mae Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â busnesau twristiaeth y sir ac mae’n ceisio cydlynu gweithgareddau dros yr ychydig fisoedd nesaf i sicrhau bod ymwelwyr, trigolion a busnesau yn cael profiadau cadarnhaol.

Meddai Graham Boase, Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cyngor ar gyfer yr Economi a'r Parth Cyhoeddus: “Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae twristiaeth yn cyfrannu £552 miliwn at economi Sir Ddinbych, felly mae’n hollbwysig bod y sir yn y lle gorau i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd twristiaeth sy’n agor o ganlyniad i lacio cyfyngiadau Covid-19. Mae arnom ni eisiau i bobl ddod i Sir Ddinbych yr haf yma a dychwelyd bob blwyddyn, felly mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud y sir yn lle diogel a chroesawgar i ymwelwyr yn ogystal â rhoi hyder i drigolion eu bod hwythau hefyd yn ddiogel.”

Bydd gweithgarwch ar draws yr awdurdod yn cael ei gydgysylltu o fewn ei Grŵp Adfer Busnes sydd â chynrychiolaeth o holl wasanaethau perthnasol y Cyngor yn ogystal â Heddlu Gogledd Cymru a'r sector preifat.

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Drwy gydol y pandemig mae’r Awdurdod wedi gweithio’n agos gyda gwasanaethau ac fel rhan o’r Adferiad Busnes daeth yn amlwg mai cydlynu ein cyrchfan ydi’r ffordd orau ymlaen yn y sefyllfa bresennol.”

Camau gweithredu yn y Cynllun Rheoli Cyrchfan:

  • Ymgysylltu â busnesau, cymunedau (drwy gynghorau tref a chymuned) a chyda trigolion ac ymwelwyr
  • Sicrhau bod cyfleusterau, safleoedd ac atyniadau Sir Ddinbych yn barod ar gyfer trigolion ac ymwelwyr wrth i’r diwydiant twristiaeth ailagor yn raddol
  • Hyrwyddo negeseuon am ymweld yn gyfrifol a datblygu twristiaeth gynaliadwy

Bydd Grŵp y Strategaeth Dwristiaeth yn monitro’r ddarpariaeth ac yn barod i nodi unrhyw fater sydd angen ei ddatrys i sicrhau bod tymor twristiaeth Sir Ddinbych mor llwyddiannus â phosibl.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...