llais y sir

Llais y Sir: Mai 2022

Cynllun Dechrau Gweithio

Mae Cynllun Dechrau Gweithio y Cyngor wedi cynnig dros 60 o leoliadau i breswylwyr Sir Ddinbych, gan roi cipolwg gwerthfawr iddynt ar fyd gwaith. Mae’r Cynllun Dechrau Gweithio yn ddull drwy Sir Ddinbych yn Gweithio i ddatblygu a chreu cymunedau cryf yn Sir Ddinbych gyda mwy o bwyslais ar fynd i’r afael â diweithdra drwy leoliadau gwaith am dâl neu’n ddi-dâl yn ein Cyngor.

Oherwydd Covid 19, rydym wedi ehangu cwmpas ein Cynllun Dechrau Gweithio i fusnesau micro a bach ar hyd a lled Sir Ddinbych. Yn ystod y tonnau diweddaraf o leoliadau, mae’r cynllun wedi gallu cynnig cyfleoedd lleoliadau am dâl a di-dâl gyda dros 15 o fusnesau yn Sir Ddinbych. Mae llawer o gyflogwyr lleol wedi croesawu’r datblygiad hwn, gan eu galluogi i sgrinio gweithwyr newydd posibl a sicrhau bod ganddynt afael sylfaenol o ddynamig y gweithle cyn iddynt ddechrau gweithio.

Mae’r cynllun yn parhau i helpu pobl leol ddatblygu’r sgiliau, profiad a diddordebau mae cyflogwyr y chwilio amdanynt mewn marchnad swyddi sy’n gynyddol gystadleuol drwy ddarparu cyllid i greu lleoliadau gwaith am dâl a di-dâl mewn amrywiaeth o swyddi iau yn adrannau Cyngor Sir Ddinbych a busnesau lleol. Yn ystod eu cyfnod yn y Cynllun Dechrau Gweithio, mae pob unigolyn yn cael ei gefnogi gan Swyddog Lleoliad i gael mynediad at rwydwaith o wasanaethau sy’n eu cefnogi ar eu taith i waith neu tuag ato, ac i gynnal eu swydd neu i ddatblygu pan fyddant mewn gwaith.

Fyddech chi’n elwa o gymryd rhan yn y Cynllun Dechrau Gweithio?

Dyma sut y gallwn eich helpu fel rhan o’r Cynllun Dechrau Gweithio. Byddwn yn:

  • Trafod y lleoliadau sydd gennym i’w cynnig
  • Archwilio diddordeb mewn swyddi yng Nghyngor Sir Ddinbych a busnesau lleol
  • Cadarnhau cymhwyster a helpu ymgeiswyr i fodloni meini prawf cymhwyso
  • Cael gafael ar gyllid i helpu’r lleoliadau
  • Cynnig cefnogaeth ar leoliadau i’r rhai sy’n cymryd rhan
  • Cefnogaeth gyda chynlluniau gwarantu cyfweliad
  • Cymorth gydag ymrwymiadau geirda ar gyfer ceisiadau swyddi yn y dyfodol
  • Galluogi cyfleoedd hyfforddi a helpu i gael mynediad at e-ddysgu
  • Darparu cyfleoedd rhwydweithio – darparu system cefnogaeth cyfaill i’r rhai sy’n cymryd rhan
  • Datblygu sgiliau cyflogadwyedd
  • Dod o hyd i ymgeiswyr sy’n barod am waith
  • Cyfeirio at wasanaethau sy’n cefnogi mynediad at gyflogaeth bellach

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y Cynllun Dechrau Gweithio, e-bostiwch ni yn WorkStart@sirddinbych.gov.uk

Yr hyn sydd gan gyfranogwyr i’w ddweud am y Cynllun Dechrau Gweithio:

Fe wnes i ymgeisio am leoliad gwaith gyda Chyngor Sir Ddinbych i ehangu fy hyder yn y gweithle ac mewn cyfweliadau drwy ddefnyddio sgiliau perthnasol yn ymarferol, cael profiad gweinyddol gyda sefydliad mawr a chasglu cronfa fwy o eirdaon i wella fy siawns o ddod o hyd i swydd llawn amser neu yrfa.

Roedd fy mhrofiadau yn ystod y lleoliad gwaith yn hynod o bositif, yn cynnwys meithrin sgiliau gwaith tîm cynhwysfawr mewn amgylchedd o bwysau mawr a dysgu am y prosesau o amgylch y Tîm Atal Digartrefedd a’u rhoi ar waith. Fe wnes i hefyd fwynhau gweithio gyda llawer o fathau gwahanol o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n galed, nid yn unig yn y Tîm Atal Digartrefedd ond yn y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol cyfan ar draws Cyngor Sir Ddinbych.

Cafodd y Cynllun Dechrau Gweithio effaith enfawr ar fy mywyd, gan fy ngalluogi i ddod dros fy iselder, rhoi ystyr a phwrpas i fy mywyd a llwybr i mi nid yn unig tuag at swydd tymor byr ond gyrfa hirdymor fel rhan ganolog o’r Tîm Atal Digartrefedd.  

Fy neges i unrhyw un sy’n meddwl am leoliad:

Os ydych yn teimlo nad yw eich bywyd gweithio yn tyfu nac yn mynd i unman, ni allaf ganmol digon ar y Cynllun Dechrau Gweithio. Cefais gefnogaeth wych ganddynt sydd wedi fy ngalluogi i ddatblygu a dangos fy sgiliau mewn amgylchedd bywyd gwaith go iawn, meithrin hyder a chael profiad pendant sydd wedi galluogi i mi ddechrau gyrfa rwyf yn angerddol iawn amdani.

Lleoliad Gweinyddwr yng Nghyngor Sir Ddinbych

 

Drwy’r Ganolfan Byd Gwaith, cefais wybod am Sir Ddinbych yn Gweithio. Siaradais ar y ffôn â mentor o Sir Ddinbych yn Gweithio gyda’r nod o ddod o hyd i swydd yn y Sector TG. Cyn pen dim roeddent wedi gofyn a oedd gen i ddiddordeb mewn ymgeisio am swydd Weinyddol drwy’r Cynllun Dechrau Gweithio. Yn naturiol, dywedais fod gen i ddiddordeb yn y rôl gan ei fod yn gyfle da i gael profiad gwaith hanfodol mewn amgylchedd swyddfa.

Gan mai hon oedd fy swydd gyntaf mewn swyddfa, roeddwn yn bryderus am ddechrau swydd, ar ben hynny, dechreuais mewn cyfnod pan oedd mwy na deg mil o achosion o Coronafeirws y dydd yn y DU. Roeddwn yn poeni am y swydd ei hun ond hefyd am fod o gwmpas pobl eraill. Drwy gydol fy amser ar leoliad, rwyf wedi cael fy nghefnogi’n uniongyrchol gan fy nghydweithwyr yn ogystal â’m Swyddog Lleoliad Dechrau Gweithio.

Mae fy nghydweithwyr wedi fy helpu i ddeall y swydd yn ogystal â sut maent yn gweithredu’n effeithiol mewn tîm, maen nhw wedi gwneud i mi deimlo’n barod am waith. Mae fy Swyddog Lleoliad Dechrau Gweithio wedi fy helpu i olrhain fy nghynnydd yn y swydd yn ogystal â rhoi clust i wrando pe bai angen.

Y peth gwych am y swydd Dechrau Gweithio yw ei bod wedi fy helpu i gael profiad gwaith gwerthfawr fel fy mod yn barod am y cam nesaf yn fy ngyrfa, sef yn union beth oeddwn ei eisiau o’r swydd. Es i’r coleg i wneud TG ac rwyf wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn ymgeisio am swyddi yn y sector TG. Roeddwn wedi tueddu’n flaenorol i fynd drwy’r cyfweliad cyntaf ac yna ar ôl yr ail gyfweliad, cael gwybod eu bod yn fy hoffi ond bod gan rywun arall fwy o brofiad. Mae’r swydd hon wedi fy rhoi mewn amgylchedd swyddfa a phrofi gweithio mewn tîm, ac wedi rhoi hyder i mi wybod y gallaf gyflawni beth bynnag rwyf yn rhoi fy mryd arno. Tuag at ddiwedd fy lleoliad cefais wahoddiad i gyfweliad ar gyfer swydd TG ac wedi’r ail gyfweliad cefais gynnig y swydd. Rwyf yn rhoi’r clod am hyn i’r Cynllun Dechrau Gweithio am ganiatáu i mi gael y profiad roeddwn yn chwilio amdano.

Byddwn wir yn argymell i bobl gymryd mantais o’r Cynllun Dechrau Gweithio gan ei fod yn caniatáu i chi eich datblygu eich hun mewn amgylchedd cefnogol a charedig. Rwyf wir yn credu fod y cyfle hwn wedi bod yn brofiad positif sydd wedi fy helpu i fod yn fwy hyderus a gwneud i mi deimlo fy mod yn ôl ar y trywydd iawn tuag at yr hyn rwyf eisiau ei gyflawni.

Lleoliad Swyddog Cefnogi Gweinyddol yng Nghyngor Sir Ddinbych

 

Diolch yn fawr iawn am eich holl gymorth ac anogaeth, mae wedi fy helpu fwy na wyddoch chi.

Lleoliad Derbynnydd yng Nghyngor Sir Ddinbych  

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...