llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2023

Defaid yn mynd i’r afael â chefnogi bioamrywiaeth ar lechwedd yn Sir Ddinbych

Mae defaid yn arwain prosiect i roi hwb i flodau gwyllt a bywyd gwyllt ar lechwedd yn Sir Ddinbych.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor wedi rhoi praidd o ddefaid ar Lechwedd Prestatyn i gynorthwyo â gwaith cynnal a chadw’r blodau gwyllt a’r bywyd gwyllt sy’n rhoi cymeriad arbennig i’r safle.

Mae cyflwyno’r anifeiliaid yn rhan o Brosiect ‘Cyfleoedd Unigryw – Datrysiadau Tirlun ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru’ a chafodd ei gefnogi a’i ariannu drwy Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Roedd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llechwedd Prestatyn yn un o 40 o safleoedd cadwraeth natur posibl y prosiect, a ddynodwyd am ei Laswelltiroedd Calchfaen sy’n brin yn rhyngwladol.

Nod y prosiect yw dod â phob safle dan gyfundrefnau rheoli cynaliadwy a lleihau’r angen i reoli safleoedd yn fecanyddol gan ddefnyddio offer a pheiriannau trwm, a chanolbwyntio ar ddefnyddio anifeiliaid traddodiadol sy’n pori fel gwartheg, defaid a cheffylau.

Cafodd diwrnodau ymgynghori cymunedol eu cynnal yn Y Sied ym Mhrestatyn i sgwrsio ag aelodau’r gymuned leol am y cynlluniau ar gyfer y llechwedd a chynhaliwyd Arolygon Botanegol ym mis Mehefin 2021 i ddeall yn well yr hyn a oedd ar y safle ar hyn o bryd a gweithredu fel cyfeirnod i roi cyfarwyddyd a monitro rheoli’r safle yn y dyfodol.

Gosodwyd ffensys a dŵr ym mis Ionawr 2022 a chafodd y deunyddiau i gyd eu cario i’r safle â llaw oherwydd hyn a hyn o gerbydau oedd ar gael. Cafodd giatiau mochyn eu gosod i sicrhau nad oedd mynediad wedi’i gyfyngu ar hyd y Llwybr Clawdd Offa.

Dywedodd Jack Parry, Swyddog Prosiect Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Gogledd Ddwyrain Cymru: “Mae'r defaid yn frîd gwydn sydd wedi arfer â phori ar dir uchel ac maen nhw’n gallu goroesi y tu allan mewn tywydd eithafol. Cyn belled eu bod nhw’n cael llonydd maen nhw’n ddigon bodlon yn pori. Mae defnyddio defaid i bori yn ein galluogi ni i reoli’r safle’n fwy cynaliadwy a lleihau’r angen i ddefnyddio peiriannau ar y safle.

“Ein nod ni yw helpu’r nifer fawr o flodau a bywyd gwyllt ar y safle. Bydd y defaid yn ein helpu ni i gyflawni hyn drwy gael gwared ar y llystyfiant trwchus ac agor y glastir yn yr hydref/gaeaf a fydd yn caniatáu i blanhigion blodeuol llai ffynnu erbyn yr haf gan gynnig hafan i löynnod byw a bywyd gwyllt arall.

“Bydd y defaid ar y safle am ddau fis ac yn pori ar un darn yn unig ar y tro. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn cyfyngu ar fynediad, ond gofynnwn fod cŵn yn cael eu cadw dan reolaeth dynn wrth fynd drwy’r darn â’r defaid ynddo.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae cefnogi a gwella ein bioamrywiaeth leol yn hanfodol bwysig ac yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Rwy’n falch i weld prosiect mor unigryw ar waith ar Lechwedd Prestatyn ac rwy’n edrych ymlaen at weld y buddion yn ffynnu ar y safle.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...