llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2023

Noson ar y carped coch i sêr Ysgol y Gwernant

Cafodd disgyblion Ysgol y Gwernant, Llangollen, a’u teuluoedd droedio’r carped coch yr wythnos diwethaf, wrth i ffilm arbennig a grëwyd gan ddosbarth Blwyddyn 6 yr ysgol, sydd hefyd yn actio ynddi, gael ei dangos am y tro cyntaf yn Neuadd Tref Llangollen.

Mae’r ffilm, sef ‘Antur Teithio mewn Amser: Darganfod Camera Obscura Castell Dinas Brân, 1869 – 1910’, yn ganlyniad prosiect ffilm y bu’r disgyblion yn gweithio arno gyda phrosiect Ein Tirlun Darluniadwy, sef Cynllun Partneriaeth Tirlun a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae dosbarth Blwyddyn 6 wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r gwneuthurwr ffilmiau, Rob Spaull, i ymchwilio, ysgrifennu, cynhyrchu ac actio yn y ffilm fer. Mae hon yn mynd â’r gwylwyr ar daith i’r gorffennol i ddarganfod hanes anhygoel Castell Dinas Brân ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig y Camera Obscura a safai ar frig y bryn yn edrych dros y golygfeydd godidog islaw, ac a oedd yn atyniad mawr i dwristiaid oedd yn ymweld â Dyffryn Dyfrdwy i chwilio am harddwch arbennig.

Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf i gynulleidfa o dros 100 o bobl, a chafodd y plant gerdded i mewn ar y carped coch, cael hwyl gyda bwth lluniau a mwynhau popcorn, cyn cael gwylio eu creadigaeth ar y sgrin fawr.

Yn yr un digwyddiad, lansiwyd hefyd, Hanes Bywluniedig Dyffryn Dyfrdwy’ sef gwibdaith drwy Ddyffryn Dyfrdwy’r gorffennol a’r presennol, sy’n rhoi profiad i’r gwylwyr o olygfeydd a synau’r dirwedd drwy’r oesau.

Mae’r ddwy ffilm bellach ar gael i’w gwylio ar ein gwefan.

Dywedodd Y Cynghorydd  Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r prosiect yma’n dangos grŵp mor dalentog o bobl ifanc sydd yn Llangollen, a dw i’n siŵr y bydd hwn yn brofiad y bydd y plant yn ei gofio a’i werthfawrogi am amser hir iawn."

Dywedodd Hannah Marubbi, Rheolwr Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy: “Roedd hi’n bleser gweithio gyda phlant Ysgol y Gwernant yn creu’r ffilm anhygoel yma, ac mae’n wych gweld eu mwynhad bod y ffilm yn cael ei arddangos o flaen eu cyfeillion, teulu a’r gymuned ehangach yn Llangollen. Rydym yn falch o allu rhannu’r animeiddiad digidol sydd wedi’i greu gan DextraVisual oedd yn edrych yn drawiadol iawn ar y sgrin fawr.  Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ein galluogi i ddarparu’r profiadau yma sydd yn archwilio ein treftadaeth leol gyfoethog.”

Disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol y Gwernant yn gweithio gyda’r gwneuthurwr
ffilmiau, Rob Spaull i greu eu ffilm.

Y gynulleidfa yn Neuadd y Dref Llangollen yn mwynhau ffilm
Ysgol y Gwernant ar y sgrin fawr

Y Cynghorydd Win Mullen-James yn cyflwyno’r disgyblion gyda phoster o Ddinas Brân
wedi’i fframio fel cydnabyddiaeth o’r gwaith rhyfeddol yn creu’r ffilm.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...