Mae un o’r adar mwyaf poblogaidd wedi cyrraedd gwlyptir sy’n datblygu yn Sir Ddinbych.

Roedd yr 2ail o Chwefror yn Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd sy’n annog adfywio ac adfer gwlyptiroedd sydd wedi dirywio.

Mae'r ymgyrch hefyd yn cefnogi adfywio'r ardaloedd pwysig hyn i annog rhagor o fywyd gwyllt i ddychwelyd ac mae un o’r ardaloedd sy'n cael ei hadfywio wedi'i lleoli ym Mhrestatyn.

Dechreuodd y gwaith ar y Morfa, sy’n 35 erw o wlyptir ger Prestatyn yn 2020 pan gafodd ei brynu gan y Cyngor ar ôl cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu ei statws yn adnodd gwlyptir naturiol. Cafodd tri phwll eu creu ar y safle i ehangu’r gefnogaeth ar gyfer byd natur y gwlyptir.

Mae manteision hyn yn cynnwys mwy o fioamrywiaeth, fflora ac adar yn ogystal ag atyniad gwlyptir i wylwyr adar ymweld ag ef o dri platfform gwylio. Mae gan bob platfform fwrdd dehongli yn sôn am yr ardal y mae’n edrych allan arni.

Mae’r gwlyptir yn gorwedd wrth ymyl cafn Prestatyn ac mae’n ffurfio ceuffos naturiol ar adegau o law trwm, gan weithredu fel amddiffynfa bwysig rhag llifogydd.

Ac yn awr mae un o’r ffefrynnau ymhlith gwylwyr adar wedi’i weld yn mwynhau rhyfeddodau’r ardal ynghyd â rhywogaethau eraill gan gynnwys y crëyr bach copog a hwyaid gwyllt.

Eglurodd Sasha Taylor, y Ceidwad Cefn Gwlad sy’n gofalu am y safle: “Mae’n gynefin ardderchog i lawer o wahanol rywogaethau o adar ac anifeiliaid eraill hefyd. Rydym ni wedi gweld ambell i gïach yma a gwelodd aelod o’r grŵp amgylcheddol lleol las y dorlan yma a oedd yn anhygoel. Mae’r adar llai hefyd wrth eu bodd â’r coed helyg yn y canol. Mae’n brysur bob amser yno.

“Mae gennym ni fyrddau dehongli hyfryd newydd sy’n egluro’r buddion o gael y system wlyptir hon. Maen nhw’n egluro’r cyfan am storio carbon a pha mor fuddiol ydyw ar gyfer newid hinsawdd”

Mae anifail o’r DU sydd mewn perygl hefyd wedi’i weld ger y gwlyptiroedd a bydd gwaith i’w helpu i ffynnu yn yr ardal yn cynnwys datblygu ffosydd draenio dŵr i ddarparu cynefin gwell ar ei gyfer.

Ychwanegodd Sasha: “Mae llawer o bobl yn ein grŵp gwirfoddoli yn treulio llawer o amser yma ac mae llawer ohonyn nhw wedi tynnu lluniau o lygod pengrwn y dŵr ar hyd y dorlan.”

Mae'r Cyngor yn parhau i ddefnyddio gwartheg Belted Galloway i bori ar dir yr ardal a chefnogi i reoli’r safle a disgwylir i'r rhain fod yn ôl ar y gwlyptiroedd yn ystod yr haf.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych gweld yr ardal hon yn parhau i adfer bioamrywiaeth lleol. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl waith caled y mae gwirfoddolwyr wedi’i wneud ynghyd â’n staff Cefn Gwlad er mwyn gwneud y safle hwn yn lle arbennig ar gyfer cefnogi ein bywyd gwyllt a’n hinsawdd.”