llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2023

Cydweithio cymunedol yn gweld bioamrywiaeth yn ffynnu yn y gwarchodfeydd natur

Mae partneriaeth gymunedol wedi helpu bioamrywiaeth ffynnu mewn lleoliad poblogaidd yn Rhuddlan.

Mae staff Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda grŵp cymunedol sydd y tu ôl i Warchodfa Natur Rhuddlan i dyfu amgylchedd sy’n ffynnu o ran bioamrywiaeth ac i ymwelwyr ei fwynhau.

Mae’r staff gwasanaethau cefn gwlad wedi bod yn rheoli’r safle ers ei agor yn 2011 ar ran y Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Rhuddlan, i roi bywyd newydd i nifer o fentrau yn y gymuned.

Yn dilyn y gwaith hwn bu i’r warchodfa natur ennill gwobr Cymru yn ei Blodau llynedd yn y wobr ‘Overall It’s Your Neighbourhood’. Cyflwynwyd Tystysgrif Genedlaethol Arbenigrwydd RHS i aelodau’r grŵp a staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad. 

Yn eu hadroddiad am y warchodfa, ysgrifennodd Cymru yn ei Blodau, “Ym mhob maes rheoli, cynllunio a threfnu gwirfoddolwyr hyd at ymdrechion ymarferol ar y safle, mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn enghraifft wych o sut i feithrin a chreu cynefin.”

Diolch i weledigaeth werdd y grŵp a sgiliau staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad, mae’r safle wedi tyfu dros y blynyddoedd drwy gyflwyno mentrau gan gynnwys dau ddôl blodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 medr o wrychoedd, lleiniau blodau gwyllt, plannu 6000 o goed, perllan rhywogaethau treftadaeth, dau fan picnic a llwyfan rhwydo pyllau. 

Ychwanegiad unigryw i’r warchodfa natur yw’r Ardd Synhwyraidd sydd wedi cynnwys y Grŵp Dementia lleol a’r grŵp gwarchodfa natur yn gweithio gyda staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad. Gwagle sy’n gyfeillgar i bobl â dementia gyda nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwyllt a thirwedd hanesyddol megis waliau cerrig sych â gwrychoedd wedi plygu, seddi coed derw Cymreig traddodiadol wedi eu creu ar y safle.

Dywedodd Anita Fagan, Cadeirydd y Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Rhuddlan: “Mae’r Pwyllgor wedi bod yn gweithio’n galed ac yn falch o gael y wobr Tystysgrif Genedlaethol o Arbenigrwydd yn y gwobrau “Prydain yn ei Blodau” y llynedd.

“Fel Cadeirydd, gyda bwriad o wella ac amrywio cynefinoedd y warchodfa ar gyfer addysgu a mwynhad ein hymwelwyr, y rhan fwyaf yn breswylwyr lleol ond hefyd yn ymwelwyr ar eu gwyliau, gallaf dynnu ar amryw sgiliau’r pwyllgor. Mae’r rhain yn cynnwys arbenigedd ar fywyd gwyllt a gwybodaeth am yr ardal leol, gan gynnwys cynghorwyr tref a sir, ac wrth gwrs sgiliau bioamrywiaeth Garry Davies, Jim Kilpatrick a Brad Shackleton o Wasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych.

“Ers ei agor yn 2011, mae preswylwyr Rhuddlan wedi mwynhau’r gwagle agored diogel hwn. Mae teuluoedd yn dod â phlant i chwarae a chael picnic, cerdded gyda’u cŵn a thynnu lluniau o fywyd adar. Yn ogystal, rydym yn trefnu helfeydd pryfaid ar gyfer plant meithrinfa leol ac ysgol gynradd leol, cefnogi gwirfoddolwyr i ddysgu am blygu gwrychoedd ac arwain teithiau cerdded i grwpiau oedolion lleol.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd hi’n bleser cael ymweld â Gwarchodfa Rhuddlan yn ddiweddar i weld sut mae brwdfrydedd y grŵp i wella’r tir wedi dod yn fyw drwy reolaeth gan ein staff Gwasanaeth Cefn Gwlad.

“Mae’r cydweithio hyn wedi cynhyrchu ardal wych yn Sir Ddinbych ar gyfer cefnogi a gwella bioamrywiaeth. Mae cyfoethogrwydd gwybodaeth yn gyrru datblygiad y safle gan y grŵp, ynghyd â sgiliau staff Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor wedi creu ardal lle gall Rhuddlan fod yn falch wrth gefnogi ein bywyd gwyllt a natur.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...