llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2023

Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn denu’r nifer uchaf erioed

Cynhaliwyd y Ffair Swyddi ym Mwyty a Bar 1891 yn Theatr y Pafiliwn Y Rhyl, ac fe groesawodd Tîm Sir Ddinbych yn Gweithio dros 50 o sefydliadau a chyflogwyr i gwrdd a thrafod cyfleoedd gyrfa gyda thrigolion Sir Ddinbych yr wythnos diwethaf.

Daeth dros 250 i’r digwyddiad, y nifer uchaf erioed, a chawsant ddefnyddio dwy lefel y bwyty a’r bar glan y môr.

Bu amrywiaeth eang o gyflogwyr yn arddangos yn y ffair, gyda sefydliadau a gydnabyddir yn lleol a chenedlaethol fel Aldi, Qioptiq, Airbus, Y Gwasanaeth Tân, Y Fyddin a llawer mwy, gan ddarparu cyfleoedd i unigolion ar bob lefel o brofiad.

Cofrestrodd Tîm Sir Ddinbych yn Gweithio dros 35 o bobl ar eu fframwaith yn ystod y dydd. Bydd y gwasanaeth bellach yn rhoi cefnogaeth lawn i'r ymgeiswyr ar ôl y digwyddiad a hyd nes y byddant yn dod o hyd i waith.

Meddai Rachael Sumner-Lewis, Rheolwr Ymgysylltu Cyflogaeth yn Sir Ddinbych yn Gweithio: “Rydym wrth ein bodd gyda’r nifer a oedd yn bresennol a’r adborth o’r Ffair Swyddi. Hwn oedd ein digwyddiad gorau hyd yma ac rydym wedi rhagori ar yr holl fetrigau blaenorol. Daeth dros 250 o bobl drwy'r drysau, a thros 50 o arddangoswyr yn bresennol. Roedd cynnal y digwyddiad yn 1891 yn y Rhyl yn benderfyniad gwych, gan ganiatáu i ni gynyddu capasiti o dros 50% yn ogystal ag ychwanegu cyfleustra parcio ar y safle. Roedd adborth gan ymwelwyr yn hynod gadarnhaol, gyda 98% o'r mynychwyr yn nodi bod y digwyddiad yn ardderchog neu'n dda. Roedd yr adborth gan gyflogwyr a gawsom gan yr arddangoswyr hefyd yn hynod gadarnhaol, gyda llawer yn dweud eu bod yn hyderus y byddant yn dysgu talent newydd o ganlyniad i fynychu. Gwnaethant hefyd sylwadau ar fanteision rhwydweithio gyda chymaint o bartneriaid busnes yn y digwyddiad. Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych, a oedd o fudd mawr i bobl y Rhyl, yn ogystal â’r sir gyfan. Hoffwn ddiolch i holl dîm Sir Ddinbych yn Gweithio am eu gwaith caled a’u hymroddiad a helpodd i wneud y digwyddiad hwn yn bosibl ac yn hynod o lwyddiannus.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’n wych gweld bod cymaint wedi bod yn bresennol yn y ffair swyddi ddiweddaraf. Fe’u cynhelir i helpu pobl Sir Ddinbych i ffynnu, ac i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a chefnogaeth i’r sir gyfan. Mae tîm Sir Ddinbych yn Gweithio wedi gweithio’n galed iawn i drefnu’r ffair hon, diolch iddynt am ei gwneud yn llwyddiant ysgubol.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...