llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2023

Taith Ymgyfarwyddo gyda'r Tîm Twristiaeth

Yr wythnos diwethaf fe aethom ar y pumed daith Ymgyfarwyddo a drefnwyd gan Dîm Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych, a gynlluniwyd i amlygu rhannau gorau’r ardal gyda busnesau twristiaeth lleol fel y gallant rannu’r wybodaeth ac annog ymwelwyr i dyrchu’n ddyfnach i’n hanes lleol, atyniadau, caffis a siopau.

Y tro hwn fe wnaethom ganolbwyntio ar Ddyffryn Clwyd, ardal sydd wedi elwa o arwyddion newydd yn ddiweddar. Tynnodd ein tywysydd Pete sylw at deithiau cerdded fel Lady Baggot's Drive ar hyd Afon Clywedog ar y ffordd i Ddinbych a’r rheswm dros yr enw Pwll y Grawys yn Ninbych oedd oherwydd cyn iddo gael ei ddraenio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dilyn epidemig colera byddai wedi cael ei stocio gyda physgod a oedd yn darparu bwyd i bobl y dref a’r garsiwn yn Ninbych yn ystod y Grawys.

Cafwyd sgwrs gan Roland yn Llyfrgell Dinbych a eglurodd iddo gael ei adeiladu’n wreiddiol fel Neuadd y Dref gan Robert Dudley, Iarll Caerlŷr a Barwn Dinbych ym 1572. Roedd Dudley yn ffefryn mawr gan Elisabeth I ar y pryd ac roedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu Eglwys Caerlŷr. Wedi'i ailfodelu'n helaeth ym 1780, yn wreiddiol roedd yr adeilad yn neuadd farchnad a llys ac yna cafodd ei ddefnyddio fel neuadd y dref hyd at ail hanner yr ugeinfed ganrif. Mae'r adeilad bellach yn llyfrgell gyhoeddus helaeth dros tri llawr. Mae oriau agor i’w gweld yma.

Yna, bu i ni gerdded i fyny i Gastell Dinbych ar hyd y llwybr cyswllt yn Lôn Brombil, gan fwynhau’r gyfres o waith celf ar hyd y ffordd yn darlunio barddoniaeth gan Rhys Trimble, gosodiadau golau ar ffurf Banadl yn ogystal â stori’r Mabinogi, Blodeuwedd sy’n cael ei hadnabod fel Duwies y blodau a redodd i ffwrdd i'r goedwig, dim ond i gael ei holrhain gan Gwydion, dewin sy'n cael ei gynddeiriogi gan frad ei nai. Mae hi'n cael ei throi'n dylluan, i grwydro yn y nos yn unig, ac nid yw’n cael gweld pelydrau'r haul yr oedd yn eu caru gymaint ac yn mynd i fyw bywyd unig. Pan gyrhaeddwch ben y lôn fe welwch darian hardd o flodau, trowch yn ôl ar y ffordd rydych newydd ei cherdded ac fe welwch dylluan hardd yn hedfan.

Bu i ni gerdded i'r Castell drwy Borth Burgess oedd yn un o'r ddwy brif fynedfa i'r dref gaerog. Mae Dinbych (sy'n golygu caer fechan) yn un o drefi mwyaf hanesyddol Gogledd Cymru. Sonnir am y dref gyntaf mewn cofnodion yn y blynyddoedd yn dilyn y Goncwest Normanaidd pan ddaeth yn dref ar y ffin yn gwarchod y ffordd ddynesu at Fryniau Hiraethog ac Eryri. Mae'n debyg mai Dinbych hefyd oedd lleoliad tref gaerog yn ystod meddiannaeth y Rhufeiniaid ac yn y deuddegfed ganrif roedd pencadlys Dafydd ap Gruffydd, brawd Llewelyn, Ein Llyw Olaf, yma. Creodd Edward I Arglwyddiaeth Dinbych ym 1282 a roddwyd i Henry de Lacy a awdurdododd i Gastell Dinbych gael ei adeiladu dros gadarnle Dafydd ap Gruffydd. Nodwedd orau'r castell yw ei Borthdy Mawr tri thŵr ac arno stamp digamsyniol Meistr Iago o Lansan Siôr, y pensaer a oedd yn gyfrifol am holl gestyll mawr Edward I yng Ngogledd Cymru.

Gwelsom weddillion Eglwys anorffenedig Caerlŷr. Dechreuwyd adeiladu ym 1578 gyda’r bwriad o fod yr un mwyaf mawreddog o’r cyfnod, wedi’i gynllunio ar gyfer gwasanaeth Protestannaidd ac o bosibl yn cymryd lle Capel St Hilari ac o bosibl Cadeirlan Llanelwy. Oherwydd diffyg cyllid a gwrthwynebiad lleol cafodd ond ei datblygu hyd at uchder y ffenestr ac fe’i gadawyd yn llwyr pan fu farw Dudley ym 1588. Effeithiodd ei farwolaeth yn fawr ar Elisabeth I a chadwodd ei lythyr olaf ati wrth erchwyn ei gwely tan y bu iddi hi farw 15 mlynedd yn ddiweddarach.

 

Ein stop nesaf oedd cinio bendigedig yng nghaffi’r Cyfieithwyr yng Nghadeirlan Llanelwy. Daeth yn amser am ychydig o rwydweithio a sgwrs gan David am hanes cyfoethog ac amrywiol y gadeirlan. Cafodd ei hadeiladu’n gyntaf yn y drydedd ganrif ar ddeg ond yn ‘llwybr rhyfel’ peryglus Tywysogion Cymru a Brenhinoedd Lloegr ychydig a wyddys faint o ddifrod y byddai’r adeilad gwreiddiol wedi’i ddioddef. Cafodd ei ailfodelu yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gan ddefnyddio tywodfaen melynaidd graen mân a gloddiwyd yn y Fflint ar gyfer casin allanol y waliau ac ar gyfer myliynau a gwaith cerfiedig arall. Fe'i defnyddiwyd fel stabl gan Owain Glyndŵr yn 1402 ac ers hynny mae wedi dod yn adeilad hardd fel a welwn heddiw. Mae wir yn eich synnu ac mae ar agor gyda gwasanaeth 365 diwrnod y flwyddyn a chôr gweithredol y byddwch efallai'n clywed yn ymarfer yn ystod eich ymweliad. 

Yna, bu i ni ymweld â Chastell Rhuddlan un arall o gadarnleoedd Edward I. Hoffai i'w gestyll fod ar yr arfordir er mwyn cael nwyddau’n hawdd dros y môr pe na bai ei ymgyrch yn erbyn y Cymry yn mynd rhagddo fel y bwriadwyd. Ond gan fod Rhuddlan yn fewndir, y cynllun oedd defnyddio afon Clwyd yn lle. Fe orfododd Edward gannoedd o gloddwyr ffosydd i ddyfnhau a dargyfeirio ei gwrs. Mae Castell Rhuddlan yn parhau i edrych fel castell yr oedd hi’n werth symud afon ar ei gyfer. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1277 a hwn oedd y castell cyntaf o’r math consentrig arloesol, neu ‘waliau o fewn waliau’ a ddyluniwyd gan y meistr bensaer Iago o Lansan Siôr. Mae’n hawdd gweld cynllun grid y strydoedd canoloesol yn Rhuddlan yr oes fodern a’i ffosydd.

Yna bu i ni gerdded ar draws i Eglwys y Santes Fair sydd wedi bod yn gwasanaethu pobl Rhuddlan ers 1301 fel man i weddïo ac addoli, dathlu a chofio. Mae’n Eglwys hardd ac yn werth ei gweld, fe’i symudwyd i’r safle hwn gan Edward I ac mae’n ymddangos ei fod yn hoff iawn o symud pethau i weddu i’w gynlluniau cyffredinol. Y tu mewn mae llawer o luniadau canoloesol a ddadorchuddiwyd gan waith adnewyddu blaenorol a chredir eu bod ymhlith y cynharaf sy'n dal i fodoli yng Nghymru.

Fe wnaethom orffen ein diwrnod gydag ymweliad ag Eglwys y Santes Fererid (a elwir hefyd yn Yr Eglwys Farmor), Bodelwyddan. Mae’r Eglwys blwyf hon sydd wedi’i haddurno mewn Arddull Gothig gyda meindwr 202 troedfedd i’w gweld am filltiroedd yn rhan isaf Dyffryn Clwyd ac mae’n hawdd ei chyrraedd o ffordd gyflym yr A55.

Comisiynwyd yr eglwys gan y Foneddiges Margaret Willoughby de Broke o Gastell Bodelwyddan gerllaw er cof am ei gŵr, Henry Peyto-Verney, Barwn Willoughby de Broke rhif 16. Gosododd y garreg sylfaen ar 24 Gorffennaf 1856 a chysegrwyd yr eglwys newydd, a gynlluniwyd gan John Gibson, gan Esgob Llanelwy ar 23 Awst 1860 ar ôl ei hadeiladu ar gost o £60,000. Crëwyd plwyf newydd Bodelwyddan ar 3 Awst 1860. Oherwydd ei ddeunydd a'i ddyluniad moethus cafodd y llys enw  'The Pearl of the Vale'.

Mae'r eglwys yn cynnwys pedwar math ar ddeg o farmor gan gynnwys pileri wedi'u gwneud o farmor Coch Gwlad Belg, mae mynedfa corff yr eglwys wedi'i gwneud o farmor Môn a siafftiau o farmor Languedoc ar sylfaen o farmor Purbeck. Mae hefyd yn cynnwys gwaith coed cywrain, ac yn y tŵr gellir dod o hyd i ffenestri gwydr lliw ar yr ochr ogleddol a deheuol, yn cynnwys y Santes Fererid a Sant Cyndeyrn. Os edrychwch yn ofalus, gallwch weld ei henw hi a'i gŵr wedi'u cerfio yn y to yn ogystal â'u hwynebau, yn amlwg roedd ganddi lawer o fewnbwn i'r dyluniad yn ogystal â bod yn gofeb hardd i'w diweddar ŵr.

Yn sicr, fe wnaethom wneud llawer yn ystod ein diwrnod yn y Dyffryn ac os hoffech chi ddarganfod mwy am yr ardal beth am ystyried cymryd rhan yn ein cwrs Llysgennad rhad ac am ddim? Sir Ddinbych oedd y cyntaf i lansio cwrs ar-lein o’i fath yng Nghymru. Mae’n cynnwys cyfres o fodiwlau ar-lein ar wahanol themâu sy’n berthnasol i’r ardal gan gynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae tair lefel o wobrau - efydd, arian ac aur. Fe anogir preswylwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol i fod yn Llysgenhadon i ddysgu mwy am rinweddau unigryw'r ardal. Os hoffech wybod mwy am y cynllun neu os hoffech dderbyn ein newyddlenni, cysylltwch â ni.

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...