Gallwch gofrestru i dderbyn eich biliau Treth y Cyngor ar-lein
Bydd biliau Treth y Cyngor yn cael eu hanfon yn fuan. Oeddech yn gwybod y gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif Treth y Cyngor ar-lein er mwyn:
- Gwirio’ch cyfrif, yn cynnwys unrhyw falans sydd ar ôl a rhandaliadau yn y dyfodol
- Cael biliau di-bapur
- Newid eich dull talu
- Gweld eich biliau ar-lein
- Rhoi gwybod i ni am unrhyw newid yn eich manylion personol
- Rhannu eich taliadau drwy ddewis cynllun talu
- Ymgeisio am ostyngiad person sengl
- Gwirio eich band Treth y Cyngor
- Mynediad at gymorth ar unrhyw adeg
Mae cofrestru yn hawdd a chyflym. Ewch i'n gwefan am fwy o wybodaeth.
