Yn ddiweddar, cafodd cerddwyr gyfle i fwynhau taith eirlysiau heulog braf i groesawu’r gwanwyn.

Arweiniodd Ceidwaid Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ynghyd â’r tîm Natur er Budd Iechyd daith gerdded y gwanwyn i weld yr eirlysiau yn Eglwys Sant Tysilio, Llantysilio.

Bu’r Ceidwaid yn sgwrsio am y gwaith gwella sy’n mynd ymlaen yn Rhaeadr y Bedol cyn mynd i lawr at yr eglwys.

Croesawyd pawb i’r eglwys gan y warden i ddysgu am ei hanes, y bobl enwog sydd wedi eu claddu yno ac i fwynhau tlysni’r eirlysiau o’i hamgylch.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio: “Mae’n bwysig iawn bod pobl yn neilltuo amser i fwynhau bod allan yn yr awyr agored ac mae llawer iawn o astudiaethau sy’n profi pam bod cysylltu â natur a’r tirlun a’r hanes o’i gwmpas yn dda i ni.”

Hoffai’r Ceidwaid ddiolch yn arbennig i wardeiniaid Eglwys Sant Tysilio am groesawu’r grŵp a chynnal sgwrs mor ddifyr am y safle.

Mae Natur er Budd Iechyd yn brosiect ar y cyd sy’n ymgysylltu ag unigolion a chymunedau i hyrwyddo’r gwaith y gall mynediad at natur ei chwarae i wella iechyd a lles. Mae’r rhaglen yn croesawu pobl o bob gallu i gymryd rhan mewn cadwraeth a gweithgareddau awyr agored iach ar garreg eich drws. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU.

Os methoch chi’r daith hon ac os hoffech ymuno â digwyddiad yn y dyfodol, neu os hoffech gael copi o amserlen digwyddiadau am ddim Natur er Budd Iechyd, cysylltwch drwy anfon e-bost at naturerbuddiechyd@sirddinbych.gov.uk neu ewch ar dudalen Eventbrite Natur er Budd Iechyd drwy’r ddolen gyswllt: https://shorturl.at/XSVSU