Y Cyngor yn annog trigolion i gofrestru ar gyfer gwasanaeth gwastraff gardd
Mae gwasanaeth tanysgrifio gwastraff gardd Sir Ddinbych wedi ailagor i drigolion, gyda strwythur talu diwygiedig yn dod rym o 1 Ebrill 2025. Yn dilyn saib dros dro yn y broses danysgrifio yn gynharach eleni, er mwyn cwblhau uwchraddiad hanfodol, mae tanysgrifiadau ar gael eto.
Mae'r Cyngor yn annog trigolion sy'n tanysgrifio am y tro cyntaf i wneud hyn mewn da bryd i sicrhau y gellir dosbarthu biniau newydd mewn pryd ar gyfer 1 Ebrill ac i fanteisio'n llawn ar y gwasanaeth 12 mis.
Bydd trigolion sydd eisoes â thanysgrifiad sy’n ymestyn tu hwnt i 1 Ebrill, ddim ond yn talu cyfran o’r ffi tanysgrifio 12 mis – o’u dyddiad adnewyddu i 31 Mawrth 2026.
Bydd y gwasanaeth tanysgrifio diwygiedig yn rhedeg am gyfnod o 12 mis rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth bob blwyddyn a bydd tanysgrifiadau ar-lein yn costio £45 eleni. Mae cost weinyddol ychwanegol o £5 ar gyfer ceisiadau tanysgrifio drwy’r ganolfan gyswllt neu Siopau Un Alwad y Cyngor (caiff ffioedd tanysgrifio eu hadolygu'n flynyddol yn unol â chyfraddau chwyddiant). Wedi hynny, o 1 Ebrill 2026, bydd yr holl adnewyddiadau, tanysgrifiadau ac uwchraddiadau yn cyd-fynd â'r flwyddyn ariannol.
Mae Sir Ddinbych yn cynnig y gwasanaeth pythefnosol hwn fel ffordd ddewisol a chost-effeithiol o ailgylchu gwastraff gardd. Gyda 26 o gasgliadau bob blwyddyn, mae hyn yn cyfateb i tua £1.74 y casgliad. Mae'r tâl tanysgrifio yn angenrheidiol er mwyn i'r Cyngor ddarparu'r gwasanaeth anstatudol hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Hoffwn annog trigolion sydd am gofrestru i wneud hynny cyn gynted â phosibl i roi digon o amser os oes angen dosbarthu biniau newydd ac i gymryd mantais o’r gwasanaeth am y flwyddyn lawn.
“Rydym yn cydnabod bod rhai trigolion wedi profi toriad i’w gwasanaeth gwastraff gardd yn ystod 2024, ac fel arwydd o ewyllys da bydd y Cyngor yn dal pris y llynedd ar gyfer y trigolion hynny yr effeithiwyd arnynt ar gyfer y cyfnod 2025/26.”
Gall trigolion wirio os oes ganddynt danysgrifiad byw ar y dudalen dyddiadau casglu biniau ar wefan y Cyngor ar www.sirddinbych.gov.uk/dyddiadau-casgliadau-bin.
Fel arall, gallwch ffonio'r ganolfan gyswllt cwsmer ar 01824 706000.
