Yn ddiweddar, bu i ddisgyblion o Ysgol Dinas Brân dorchi eu llewys er mwyn dysgu sgiliau rheoli cefn gwlad.

Cafodd y bobl ifanc eu cefnogi gan Swyddogion Ymgysylltu Addysg o wasanaeth Llwybrau'r Cyngor i gymryd rhan mewn sesiynau addysg awyr agored a gynhaliwyd gan Geidwaid Cefn Gwlad o amgylch ardal ddeheuol y sir.

Mae ‘Prosiect Addysg Sir Ddinbych – Tîm Llwybrau’ yn cefnogi pobl ifanc yn Sir Ddinbych i leihau eu risg o ymddieithrio oddi wrth addysg, ac yn eu helpu i ail-ymgysylltu ag addysg neu symud i waith neu hyfforddiant ar ddiwedd blwyddyn 11. Cafodd y gwasanaeth arian gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae Ceidwaid Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi helpu’r disgyblion i ddysgu sgiliau rheoli cefn gwlad a sgiliau eraill trwy’r sesiynau, yn cynnwys:

    • Clirio rhedyn yn Ninas Brân
    • Tynnu ffromlys ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr
    • Garddio yng Ngardd Gymunedol Corwen
    • Gweithgareddau crefftau yn Nhŷ a Gerddi Hanesyddol Plas Newydd gyda thîm Ein Tirlun Darluniadwy
    • Codi waliau sych ar Fryngaer Oes yr Haearn Caer Drewyn
    • Codi sbwriel ar hyd y Panorama

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Rwyf wrth fy modd yn gweld y gwaith gwych sydd wedi’i wneud gyda disgyblion Ysgol Dinas Brân, nid yn unig i gefnogi’r bobl ifanc hyn i ail-ymgysylltu gyda’u haddysg, ond hefyd i ysgogi diddordeb newydd ar gyfer sgiliau efallai na fyddent wedi’u datblygu trwy addysgu yn y brif ffrwd.

“Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth gan wasanaeth Llwybrau’r Cyngor, y mae eu Swyddogion Ymgysylltu Addysg profiadol wedi gwneud gwaith gwych i ddefnyddio sgiliau ac adnoddau o amrywiaeth o sefydliadau gwahanol er mwyn cefnogi’r disgyblion hyn i ail-ymgysylltu gyda’u haddysg a darganfod sgiliau a diddordebau newydd nad oeddent yn ymwybodol ohonynt o’r blaen.”

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r sesiynau hyn sydd wedi’u harwain gan ein Ceidwaid Cefn Gwlad wirioneddol wedi helpu’r disgyblion i fagu eu hyder a dysgu sgiliau newydd, ac maent wedi cael eu gwobrwyo gyda thystysgrifau i ddangos eu hymroddiad tuag at wirfoddoli ar y prosiect hwn.”