Lle mae’r holl bryfetach wedi mynd?
Efallai eich bod wedi sylwi, neu wedi darllen erthyglau newyddion, sy’n sôn am y prinder o bryfetach eleni.
Er bod gwyddonwyr yn credu mai problem dros dro yw hyn ac mai’r achos tebygol yw gwanwyn gwlyb iawn, mae’n rhoi syniad i ni o’r cydbwysedd bregus y mae ecosystemau natur yn bodoli ynddynt. Rhychwant oes byr iawn sydd gan lawer o bryfetach ac fe gaiff eu cylch bywyd eu heffeithio gan newidiadau mewn systemau tywydd, a gall hyn fod yn broblem pan nad yw tymhorau yn aros mewn patrwm disgwyliedig.
Sut y mae pryfetach yn ein helpu ni?
Mae pryfetach yn chwarae rôl bwysig iawn yn y cylch bywyd ac atgynhyrchu blodau drwy broses o’r enw peillio.
Yn ystod y broses peillio, bydd pryfyn yn symud paill o un blodyn i’r llall, mae hyn yn caniatáu i’r blodyn gynhyrchu hadau (neu ffrwyth sydd yn cynnwys hadau). Fe wyddom ni gyd fod gwenyn yn beillyddion pwysig, ond mae pryfetach eraill yn cyfrannu at y broses hon. Mae cacwn, pryfed, chwilod a hyd yn oed gweision y neidr yn chwarae eu rhan yn peillio ein blodau, ein gwair a’n coed. Mae rhai pryfetach yn gwneud hyn ar ddamwain, gan fod paill yn disgyn arnynt pan fyddant allan.
Yn anffodus, gall llai o bryfetach olygu bod llai o hadau a ffrwythau’n cael eu cynhyrchu eleni.
Mae’n bosibl y byddwn yn teimlo effaith hyn y flwyddyn nesaf hefyd.
Mae pryfetach hefyd yn cefnogi rhywogaethau anifeiliaid eraill
Mae’r llun yma’n dangos gwe o fwyd.
Planhigyn sydd ar y gwaelod. Mae’r planhigyn yma’n cefnogi mamaliaid bach (megis cwningod) a rhywogaethau di-asgwrn cefn (gwlithod, malwod, morgrug a phryfetach eraill). Yna mae adar ac amffibiaid (megis brogaod, nadroedd defaid) yn bwyta’r rhywogaethau di-asgwrn cefn. Ar ben y we, mae mamaliaid mawr ac adar a fydd yn bwyta’r mamaliaid bach. Bydd unrhyw newidiadau yn y we yn achosi sgil effeithiau ar y rhywogaethau eraill wrth i argaeledd eu ffynonellau bwyd gynyddu neu leihau.
Addasu i newid
Addasu ydi’r newid y mae rhywogaeth (megis pryfetach) angen ei wneud i fodoli yn ei amgylchedd.
Mae ein tymhorau wedi dechrau newid yn ddiweddar. Rydym ni’n cael gaeafau cynhesach, gwanwyn gwlyb a hafau poethach gyda thywydd ansefydlog a gwres eithafol sy’n torri pob record. Fe fydd yn rhaid i natur a phryfetach ddechrau addasu i’r newidiadau yma, ond fe fydd rhai yn fwy cryf (fe fydd yna fwy ohonynt) am eu bod yn gallu addasu’n well.
Ar nodyn trist, mae’n bosibl na fydd rhai rhywogaethau yn gallu addasu i’r newidiadau yma.
Beth ydym yn ei wneud i helpu?
Er mwyn rhoi’r cyfle gorau o oroesi ac addasu i bryfetach ac anifeiliaid eraill, mae angen i ni greu cynefinoedd addas iddynt. Mae ein prosiect dolydd blodau gwyllt yn enghraifft berffaith o hyn.
Mae’r gymysgedd o flodau a gwair yn cefnogi llawer o bryfetach ac anifeiliaid. Mae gennym ni ddolydd blodau gwyllt mewn nifer o gymunedau ar draws y sir sydd yn rhoi cysylltedd iddynt. Mae cysylltedd gyfystyr â’r A55, ond i bryfetach (!), gall pryfetach ac anifeiliaid symud rhwng y safleoedd yma heb gael eu hatal gan ardaloedd yn llawn tai neu ddiwydiant.
Beth allwch chi ei wneud i helpu?
- Mae eich gardd neu flwch ffenestr yn fan pwysig ar gyfer pryfetach ac anifeiliaid
- Fe allech chi blannu planhigion, blodau a ffrwythau brodorol
- Gadewch i ddarn o wair dyfu’n hir rhwng y gwanwyn a’r hydref (mae gwair yn bwysig iawn i bryfetach hefyd)
- Ystyriwch greu pwll natur i annog amffibiaid a phryfetach y dŵr (pryfetach sy’n byw yn y dŵr neu ar y dŵr)
Am fwy o wybodaeth neu syniadau ewch i ...