llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2022

Cludiant Di-Garbon Ffosil

Cynhaliwyd y digwyddiad undydd hwn drwy garedigrwydd Castell y Waun yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thîm AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Daeth gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr ynghyd i archwilio’r dewisiadau di-danwydd ffosil (FFF) ar gyfer rheoli glaswellt, prysgwydd, dail a choed, yn ogystal ag ystod o ddewisiadau cludiant ar gyfer dyletswyddau personol, proffesiynol ac oddi ar y ffordd. 

Daeth dros 60 o weithwyr proffesiynol a myfyrwyr o gynghorau Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Sir Gâr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Coleg Amaethyddol Llysfasi (Coleg Cambria), Brighter Green Engineering, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda staff Cyngor Sir Gâr yn teithio dros 4 awr ar gyfer y digwyddiad, ymroddiad yn wir.  

Gyda chyfarpar ac arbenigedd Clwyd Agri, Stihl UK, Avant Techno, Drosi Bikes a Sustrans ar gael, treuliodd y mynychwyr y bore yn symud rhwng y gweithdai, gan dreulio amser yn dod i ddeall y dewisiadau FFF ar gyfer mynd i’r afael â’r tasgau dydd i ddydd yng nghefn gwlad a chadwraeth.  Roedd y rhain yn cynnwys edrych ar y defnydd o dechnegau traddodiadol megis pladuro, ochr yn ochr â thorwyr gwair batri modern, strimwyr, peiriannau torri gwair, offer torri gwrych, peiriannau chwythu dail a llifiau cadwyn. Ym maes cludiant, roedd modd i’r mynychwyr roi cynnig ar yr e-feiciau a’r beiciau cargo trydan ar gyfer cymudo a theithio rhwng swyddfeydd a chyfarfodydd a siarad â gweithwyr proffesiynol sy’n defnyddio faniau, cerbydau tir pob pwrpas a llwythwyr trydan am eu profiadau’n defnyddio’r cyfarpar yn y maes. Roedd yr Avant e6 yn profi’n gyfarpar poblogaidd, wrth i’r mynychwyr gael cyfle i dreialu’r peiriant torri gwair, y bwced a’r atodiadau ffyrch codi, gan roi profiad ymarferol iddynt o allu’r peiriant. Yn y gweithdai rheoli coed, roedd modd i’r mynychwyr weld a rhoi cynnig ar lif gadwyn betrol a thrydan ochr yn ochr, er mwyn rhoi hyder iddynt i wybod y gellir nawr cyfnewid peiriannau petrol am ddewisiadau FFF amgen, heb unrhyw newid yn eu gallu gweithredol. 

Dros ginio, cafwyd cipolwg gan Stihl UK ar wefru a thechnoleg batri a chynhaliwyd sesiwn Holi ac Ateb, lle’r oedd modd i’r mynychwyr gael atebion i’r cwestiynau cyffredin a oedd ganddynt am fatris, megis oes, gallu / gwahanol fathau, cyflymderau a chyfnodau ail-lenwi batris, dysgu am rywfaint o’r dechnoleg newydd sy’n dod i’r farchnad a beth y gellir ei ddisgwyl ar gyfer y dyfodol o ran technoleg batri.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...