Tynnu sylw at ddatblygiad coetir i gefnogi bioamrywiaeth
Mae hen gae ysgol wedi’i groesawu am ei gyfraniad i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn lleol.
Yn ddiweddar bu i gynrychiolwyr y Cyngor ymweld â hen gae ysgol gynradd yn Stryd Llanrhydd, Rhuthun, ar gyfer lansiad swyddogol y safle coetir newydd ar y tir.
Roedd disgyblion o Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos yno hefyd.
Plannwyd 800 o goed gan Brosiect Creu Coetir y Cyngor ar y safle yn gynharach eleni fel rhan o ymdrech barhaus i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth.
Yn ogystal â’r coed hyn cafodd 18,000 o goed eu plannu ar hyd a lled y sir fel rhan o ffocws Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2017-22 i warchod yr amgylchedd naturiol a hefyd cynnal a gwella bioamrywiaeth yn y sir.
Bu i nifer o blant ysgol dorchi eu llewys i helpu i blannu coed yn hen gae’r ysgol yn Rhuthun.
Ac i gadw at thema ysgolion, adeiladwyd ardal ystafell ddosbarth awyr agored ar y safle i helpu plant i ddysgu am fioamrywiaeth ac i roi help llaw i breswylwyr y nos lleol.
Mae’r ystafell ddosbarth wedi’i hadeiladu o goed gan grefftwr lleol, Huw Noble, sydd wedi cynnwys ‘To i Ystlumod’ a ddyluniwyd yn arbennig i ddarparu nodweddion y mae ystlumod eu hangen i glwydo yn ystod y dydd.
Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn i lansio’r safle’n swyddogol, gan ddarparu gwir berl ar gyfer y gymuned leol.
“Mae’n wych gweld bod y thema addysg yn parhau ar y safle gyda’r ystafell ddosbarth awyr agored ac rwy’n gobeithio y bydd nifer yn dysgu pa mor bwysig yw’r safle ar gyfer diogelu bioamrywiaeth.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr, disgyblion ac aelodau lleol sydd wedi gweithio ar safle Llanrhydd. Mae eu hymrwymiad wedi’n galluogi i roi bioamrywiaeth wrth wraidd y gymuned a darparu safle cymunedol i fod yn falch ohono am genedlaethau i ddod. “