Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn edrych ar adrodd straeon yn ddigidol gyda lansiad ‘Acid Free’ – podlediad newydd sbon, a chyfres o straeon digidol sy’n edrych ar brofiadau bywyd go iawn a themâu o’r casgliadau yn yr archifau.

Bydd y podlediad yn cynnwys archifwyr a gwesteion arbennig, a fydd yn edrych yn fanylach ar y bobl a’r straeon a geir yng nghasgliadau archif lleol Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Cafodd y podlediad a’r cynnwys digidol eu lansio’n swyddogol gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yng nghangen Penarlâg ddydd Gwener 24 Tachwedd.

Enw pennod gyntaf y podlediad ydi 'Oriel y Dihirod: Troseddwyr Oes Fictoria yng Ngogledd Ddwyrain Cymru' ac mae’n cynnwys Richard Ireland (awdur a darlithydd sy’n arbenigo mewn hanes trosedd a chosb). Mae’r bennod hon yn edrych ar fywydau troseddwyr yn Oes Fictoria ac yn trafod y ffotograffau a ddefnyddiwyd gan yr heddlu, y mathau o gosbau a roddwyd a charchardai ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’r gyfres newydd o gynnwys digidol hefyd yn cynnwys straeon digidol sydd wedi’u creu ar y cyd ag ymchwilwyr gwirfoddol o Brifysgol Glyndŵr. Mae’r straeon yn edrych ar fywydau a throseddau David Francis a George Walters, y mae eu lluniau ar gael a chadw mewn cyfrolau rhwymiad lledr yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn Rhuthun.

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae lansiad y podlediad newydd yma gan y Gwasanaeth Archifau a’r cynnwys digidol newydd am ein sir a thu hwnt yn newyddion da.

"Mae gan yr archifau wybodaeth ddiddorol iawn ac mae rhoi bywyd newydd i’r straeon yma yn ffordd wych i drigolion ddysgu am hanes cyfoethog eu hardal.”

Gallwch wrando ar y podlediad ar Spotify.

Gallwch weld y straeon digidol newydd ar dudalennau YouTube y gwasanaeth.