Estyniad gofal plant newydd yn agor yn Ysgol Penmorfa
Mae Ysgol Penmorfa ym Mhrestatyn wedi agor Cyfleuster Gofal Plant newydd yn swyddogol, ac fe fydd yn gwbl weithredol ar gyfer y tymor newydd.
Mae’r estyniad yn cynyddu capasiti’r ddarpariaeth gofal plant yn yr ardal, gan ganiatáu i fwy o deuluoedd lleol elwa ar ofal plant o safon uchel ym Mhrestatyn.
Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant a theuluoedd yn yr ardal ac yn rhoi mynediad at ddysgu i blant o oedran ifanc.
Dechreuodd y gwaith ar yr estyniad ym mis Medi 2022, ar ôl penodi’r contractwr adeiladu TG Williams yn llwyddiannus. Cafodd y gwaith ei gwblhau yn ystod haf 2023.
Ariannwyd y prosiect gan Grant Cyfalaf Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Mae agor y cyfleuster gofal plant newydd yma’n newyddion gwych i ardal Prestatyn a bydd yn rhoi cyfle pellach i’n plant a’n teuluoedd gael mynediad at ofal plant o safon uchel yma yn Sir Ddinbych.
"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r dechrau gorau posibl i’n plant ac rydw i mor falch ein bod wedi gallu ymestyn ein cynnig gofal plant fel hyn, diolch i gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru a gwaith caled pawb a fu’n rhan o’r gwaith.”