llais y sir

Llais y Sir: Tachwedd 2023

Gwelliannau i Gilfach Plymog

Arwydd pren gyda Bryn Alun a Bryn-yr-Orsedd 1 filltir

Fel rhan o ymdrechion Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i reoli nifer cynyddol yr ymwelwyr dydd i rai o’n safleoedd mwyaf poblogaidd, mae’r tîm yn ymgymryd â chyfres o welliannau hawliau tramwy fel y nodwyd yn y Cynllun Hamdden a gomisiynwyd yn ddiweddar. Nododd y cynllun gyfleoedd i ddatblygu parth cyfforddusrwydd yng nghanol ardal Bryniau Clwyd, gan ddarparu llwybrau y gellir eu dilyn yn hawdd o safleoedd heblaw meysydd parcio Moel Famau a Pharciau Gwledig Loggerheads.

Llwybr garreg yn arwain drwy\'r coed Cerrig yn croesi afon i greu llwybr at giât bren sy\'n arwain i gaeau

     

Bydd taith gylchol Bryn Alyn yn mynd â phobl o Blymog (ar yr A494) ar daith gylchol heibio i galchbalmant eiconig Bryn Alyn. Mae giatiau mochyn Llarwydd neu giatiau cerddwyr yn cael eu gosod yn lle camfeydd pan fo’n bosibl i wella mynediad.

Gwelliant oedd wir ei angen oedd y man croesi dros y nant, a elwir yn lleol yn Seven Springs. Yn garedig iawn, rhoddodd Heidelberg Materials Aggregates yn Chwarel Cefn Mawr y creigiau calchfaen mawr i greu rhyd gerrig newydd a gwell. Nid yn unig mae hyn wedi gwella diogelwch y man croesi, ond mae hefyd wedi gwella gwerth darluniadwy’r ardal hon. 

Cerrig yn croesi afon fechan yn arwain at giât fetel sy\'n agor i gae

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...