llais y sir

Llais y Sir: Tachwedd 2023

Cefnogaeth i drigolion

Rydym yn ymwybodol bod nifer o drigolion yn pryderu am gostau byw cynyddol. Isod mae ystod o gynlluniau ac adnoddau allai fod o gymorth i drigolion.

Logo o ymgyrch Nyth Llywodraeth Cymru

Nest

Mae cynllun Llywodraeth Cymru, Nyth, yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd am ddim i’ch helpu i sicrhau bod eich cartref yn gynhesach ac yn fwy effeithlon.  Hefyd, os ydych chi’n gymwys, gall gynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim.

https://nyth.llyw.cymru/

Llun i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i hybu Prydau Ysgol Cyffredinol am ddim mewn ysgolion cynradd

Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd

I helpu â chostau byw cynyddol, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pob disgybl cynradd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim erbyn 2024 drwy’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.  Ar hyn o bryd mae Prydau Ysgol am Ddim i Ysgolion Cynradd ar gael i bob plentyn yn y dosbarth derbyn a blynyddoedd 1, 2, 3 a 4.

Prydau ysgol am ddim cyffredinol

Llun yn hybu ymgyrch Llywodraeth Cymru ar gyfer hanfodion ysgol am ddim

Grant Hanfodion Ysgol

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Ddinbych a’ch bod yn cael budd-dal cymwys, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael grant tuag at gost:

  • Gwisg ysgol
  • Dillad chwaraeon ysgol
  • Chwaraeon y tu allan i’r ysgol
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach e.e. sgowtiaid a geidiau
  • Cyfarpar ar gyfer gweithgareddau i gefnogi’r cwricwlwm e.e. dylunio a thechnoleg
  • Cyfarpar ar gyfer tripiau tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored
  • Dug Caeredin
  • Cyfrifiaduron, gliniaduron a dyfeisiau llechen 

Grant Hanfodion Ysgol

Llun o gyfrifiannell

Cyfrifiannell Budd-daliadau

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol, am ddim a dienw i weld beth y gallech fod â hawl iddo. Bydd hyn yn rhoi amcangyfrif o:

  • y budd-daliadau y gallech eu cael
  • faint y gallai eich taliadau budd-dal fod
  • sut bydd eich budd-daliadau yn cael eu heffeithio os byddwch yn dechrau gweithio neu’n cynyddu eich oriau
  • sut y bydd eich budd-daliadau yn cael eu heffeithio os yw eich amgylchiadau yn newid - er enghraifft, os oes gennych blentyn neu os ydych yn symud i mewn gyda’ch partner

https://www.gov.uk/cyfrifiannell-budd-daliadau

Llun o Lyfrgell Prestatyn

Llyfrgell Ddigidol

Mae llu o adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim yn eich llyfrgell ddigidol gan gynnwys y BorrowBox ble gallwch gyrchu miloedd o Lyfrau Llafar ac e-Lyfrau, Ancestry os oes gennych ddiddordeb mewn hel achau neu PressReader os hoffech chi bori drwy bapurau newydd a chylchgronnau.

Llyfrgell Ddigidol

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...