llais y sir

Llais y Sir: Tachwedd 2023

Fy Nghartref Sir Ddinbych

Mae Fy Nghartref Sir Ddinbych yn brosiect ymyrraeth gynnar sy’n anelu at gynnig cefnogaeth ac arweiniad i unrhyw un yn Sir Ddinbych, a allai fod yn wynebu anawsterau yn ymwneud â’u cartref.

Gallwn gefnogi gydag ystod eang o anghenion a allai, heb gymorth, ddechrau mynd allan o reolaeth, gan roi’r preswylydd mewn perygl o ddod yn ddigartref yn y pen draw. Drwy ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol, cyn gynted â phosibl, gallwn atal pobl rhag gorfod meddwl am ddigartrefedd.

Gweler y poster isod am fanylion pellach a sut i gysylltu:

Poster yn dangos beth mae Fy Nghartref Sir Ddinbych yn ei gynnig i drigolion

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...