Twf economaidd mwyaf erioed i sector twristiaeth Sir Ddinbych
Mae ffigurau Monitor Gweithgaredd Economaidd Twristiaeth Scarborough (STEAM) ar gyfer 2022 yn dangos cynnydd sylweddol yn effaith economaidd twristiaeth ar y sir.
Mae ffigurau’n dangos bod twristiaeth wedi cynhyrchu £628 miliwn yn 2022, gan guro’r ffigur o £552 miliwn cyn Covid yn 2019 o bron i 14%.
Cynyddodd nifer yr ymwelwyr a oedd yn aros hefyd o gymharu â 2019, wedi i 1.64 miliwn benderfynu aros yn y sir yn 2022, sy’n gynnydd o 3.1%.
Mae cyfanswm nifer yr ymwelwyr wedi codi 0.6% o’i gymharu â’r niferoedd cyn y pandemig yn 2019, wedi i 6.03 miliwn ymweld â Sir Ddinbych yn 2022.
Mae’r ffigurau’n dangos bod y sector twristiaeth yn adfer yn dda, wedi i nifer yr ymwelwyr sy’n aros godi 56.1% yn 2022, o gymharu â ffigurau 2021.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’r ffigurau hyn yn dderbyniol iawn ac yn dangos pwysigrwydd twristiaeth i’r economi leol a gwydnwch y sector hwn mewn cyfnod sydd wedi bod yn heriol i’r diwydiant.”
Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae ein hatyniadau arfordirol a gwledig ni wedi dangos cynnydd cryf mewn effaith economaidd o gymharu â 2021 gan wella 40% a 50%. Mae hyn yn pwysleisio pa mor gryf yw’r cynnig i dwristiaid ledled y sir.”