llais y sir

Llais y Sir: Tachwedd 2024

Gŵyl Ffuglen Llyfrgelloedd Sir Ddinbych

Bydd Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cynnal cyfres o ymweliadau awduron i fywiogi'r gaeaf. Mae’r ŵyl yn dechrau gydag enillydd medal YOTO Carnegie 2023 yr awdur Manon Steffan Ros yn Llyfrgell Dinbych ddydd Llun Tachwedd 18fed am 2yp. Mae Manon wedi ysgrifennu dros 23 o lyfrau Cymraeg i oedolion a phlant, wedi ennill Llyfr y Flwyddyn, gwobr Llyfrau Plant Tir na n’Og bedair gwaith yn ogystal â gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd Llyfrgell Prestatyn yn croesawu Kate Ellis ar ddydd Mercher, 20 Tachwedd am 2pm. Mae Kate wedi ysgrifennu 28 o nofelau, yn bennaf trosedd gyda thro goruwchnaturiol, mae hi hefyd wedi ysgrifennu trioleg wedi'i gosod yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf ‘Coffin Island’ yn Awst 2024.

Bydd Llyfrgell y Rhyl yn cynnal rhaglen ddwbl gyda’r nofelydd rhamant Trisha Ashley a Juliet Greenwodd ar ddydd Iau, 28 Tachwedd am 2pm. Mae Trisha yn werthwr gorau ar restr y Sunday Times sydd wedi ysgrifennu dros 27 o nofelau, straeon byrion a barddoniaeth. Enillodd ei nofel ddiweddaraf ‘The Wedding Dress Repair Shop’ Wobr RoNA am Ffuglen Boblogaidd 2024. Nofelydd hanesyddol yw Juliet Greenwood gyda’i nofel ddiweddaraf wedi ei seilio ar brofiadau ei mam yn yr Ail Ryfel Byd a fu’n werthwr gorau ar kindle yn yr UDA a Phrydain.

Bydd yr awdur a’r darlledwr Myfanwy Alexander yn ymweld â Llyfrgell Rhuthun ddydd Iau, 21 Tachwedd am 2pm i siarad am ei chyfres o nofelau trosedd sy’n cynnwys y Ditectif Arolygydd Daf Dafis.

Bydd noson ddirgelwch llofruddiaeth a gynhelir gan dîm y llyfrgell yn Llyfrgell Rhuddlan, nos Iau, 21 Tachwedd am 7pm yn seiliedig ar ‘The Darkest Evening’ gan Ann Cleeves.

Mae’r awdur poblogaidd Simon McCleave, yn Llyfrgell Llanelwy ddydd Gwener, 22 Tachwedd am 2pm.  Dechreuodd ei gyfres o lyfrau gyda’r nofel ‘Snowdonia Killings’, ac maent yn cynnwys ‘Denbigh Asylum Killings’ a’r ‘Llangollen Killings’. Yn ddiweddar mae wedi ysgrifennu nofel gyffro annibynnol o’r enw ‘The Last Night at Villa Lucia’.

Bydd yr awdur plant lleol Pat Sumner yn ymweld â Llyfrgell Rhuthun ddydd Sadwrn, 23 Tachwedd am 11am i sgwrsio am ei nofel newydd i blant 8-12 oed, ‘The Globbatrotter’

Bydd yr awdur o Wrecsam David Ebsworth yn Llyfrgell Llangollen ddydd Mawrth, 3 Rhagfyr am 2pm yn siarad am ei ddirgelion Fictoraidd yn Wrecsam a Chaer.

Dywedodd Deborah Owen, Prif Lyfrgellydd: “Rydyn ni’n gobeithio bod rhywbeth at ddant pawb gyda’r ymweliadau hyn gan awduron. P’un a yw’n well gennych drosedd, rhamant neu ffuglen hanesyddol, hoffwn wahodd pawb i ymuno â ni.

"Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i gael rhagor o wybodaeth am ymweliad awdur penodol neu i gadw lle.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae’r ymweliadau hyn yn gyfle i bobl Sir Ddinbych gael cipolwg ar nifer o awduron poblogaidd, yn ogystal â’u pynciau cyhoeddedig. Mae yna ymweliadau ar draws y sir, sy’n ymdrin â llawer o wahanol bynciau a themâu i drigolion eu mwynhau.”

Ariennir y digwyddiadau hyn yn rhannol gan Hamdden Sir Ddinbych a Llywodraeth y DU.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...