Mae ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ yn brosiect wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, sydd wedi bod yn gweithio yn nhirlun Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ers 2018. Dros y chwe blynedd, mae’r prosiect wedi darparu 28 prosiect ysgol, ac wedi ymgysylltu gyda dros 2,400 o ddisgyblion gyda threftadaeth ac amgylchedd y lle arbennig hwn.
Fel rhan o waddol y prosiect, mae tîm Ein Tirwedd Darluniadwy wedi datblygu cyfres newydd gyffrous o adnoddau addysg digidol sydd am ddim i ysgolion ofyn amdanynt o Dirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Datblygwyd yr adnoddau addysgol newydd hyn drwy weithio ar y cyd gydag artistiaid, awduron a haneswyr, yn ogystal ag athrawon a disgyblion o’r sesiynau a ddarparodd y tîm prosiect mewn ysgolion dros y blynyddoedd. Mae’r adnoddau fwyaf addas ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, ac maent wedi’u cysylltu â fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn yn galluogi pobl ifanc i ddarganfod treftadaeth y tirlun a hanesion y cymeriadau a’r digwyddiadau dylanwadol sydd wedi siapio’r ardal dros y 400 mlynedd diwethaf. Gan gefnogi athrawon i arwain sesiynau a chyfleoedd awyr agored yn hyderus er mwyn canfod Dyffryn Dyfrdwy mewn ystod o ffyrdd, gan gynnwys drwy gyfrwng dawns, celf, ysgrifennu creadigol, hanes naturiol, gwyddoniaeth ac addysg gorfforol. Wedi’u cynnwys mae ffilmiau cyffrous, realiti rhithwir, gêm fwrdd er mwyn dysgu am gynefin a ddiystyrir sy’n brinnach na choedwig law, a gêm Top Trumps newydd er mwyn darganfod y bobl sydd wedi siapio’r ardal, ddoe a heddiw.
Gall unrhyw addysgwr neu staff ysgol sydd â diddordeb yn yr adnoddau anfon neges e-bost at ein.tirlun.darluniadwy@denbighshire.gov.uk.
Meddai Sallyanne Hall, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned Ein Tirlun Darluniadwy: “Er bydd diwedd ein prosiect Ein Tirlun Darluniadwy ym mis Tachwedd yn golygu na fydd y tîm ar gael i fynd i ysgolion ac arwain ar weithgareddau mwyach, rydym yn gobeithio y bydd yr adnoddau newydd cyffrous hyn yn cefnogi athrawon i ddarparu cyfleoedd dysgu awyr agored o safon, ac yn galluogi disgyblion i barhau i ddarganfod hanesion hynod ddiddorol Dyffryn Dyfrdwy yn y dyfodol.”
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet y Cyngor: “Mae’r adnoddau hyn yn wych ar gyfer helpu disgyblion i ddysgu am yr hanes cyfoethog sydd gan Ddyffryn Dyfrdwy i’w gynnig, ac er mwyn cadw’r straeon am yr ardal yn fyw am genedlaethau i ddod.”