Lleoliadau chwaraeon Rhuthun yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael ag effaith llygredd golau fin nos.
Mae tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn gweithio gyda Chlwb Rygbi Rhuthun a Chanolfan Gymunedol Llanfwrog i gyflwyno goleuadau mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar ar eu caeau, cyrtiau tennis a maes ymarfer golff i leihau llygredd golau a gwella’r cyfleusterau i ddefnyddwyr a natur. Y goleuadau arloesol newydd sydd wedi’u gosod yn y ganolfan tennis, y clwb rygbi a’r maes ymarfer golff ydi’r cyntaf yng Nghymru i fod yn gyfeillgar i’r awyr dywyll ac yn ecogyfeillgar gan arwain y ffordd i arddangos arfer gorau.
Yn rhan o raglen ehangach o waith wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, mae Tirweddau Dynodedig ar draws Cymru yn cydweithio fel Tirweddau Cymru i helpu i ddatgloi potensial y tirweddau i ddarparu ar gyfer natur, hinsawdd a chymunedau. Mae hyn wedi cynnwys prosiect cydweithredol dan arweiniad staff o Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i hyrwyddo pwysigrwydd awyr dywyll ar gyfer natur ac phobl.
Fe weithiodd tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyda’r holl feysydd a chlybiau chwaraeon yn y rhan yma o Ruthun, yn cynnwys y clwb rygbi, y clwb tennis a’r maes ymarfer golff i feddwl am ddatrysiadau all ddarparu goleuadau chwaraeon effeithiol sydd yn cyrraedd safonau chwaraeon proffesiynol mewn modd ecogyfeillgar.
Mae’r goleuadau newydd yn cynnwys cyflau sydd yn atal unrhyw olau sydd yn cyrraedd ardaloedd diangen ac i gyfeirio’r holl olau ar y caeau, ac nid yw’n caniatáu i olau gyrraedd y tu hwnt i’r cae chwarae. Mae hyn yn golygu bod llai o olau’n cael ei wastraffu yn ogystal â llai o effaith ecolegol.
Mae hyn yn golygu y gall y clwb rygbi oleuo eu caeau’n fwy effeithiol gyda 45% o ostyngiad yn yr ynni maen nhw’n ei ddefnyddio, gan arwain at arbediad ariannol sylweddol i’r clwb.
Mae’r clwb tennis wedi gweld gostyngiad o 61% yn yr ynni maen nhw’n ei ddefnyddio ac mae’r cyrtiau’n cael eu goleuo’n llawer gwell ac mae hi’n haws chwarae arnyn nhw.
Mae system reoli goleuadau newydd wedi cael ei gynnwys gan olygu bod modd rheoli’r goleuadau newydd oddi ar ap ffôn, sy’n golygu mai dim ond cyrtiau neu gaeau sy’n cael eu defnyddio sy’n cael eu goleuo. Gellir pylu’r goleuadau pan maen nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant yn hytrach na gemau, gan arwain at ragor o arbedion ynni.
Yn hollbwysig mae gan y goleuadau LED newydd liw tymheredd cynhesach, 2700 kelvin, sydd yn llawer llai niweidiol i fywyd gwyllt yn hytrach na goleuadau LED glas/gwyn safonol.
Gall golau allanol sydd heb ei reoli gael effaith negyddol enfawr ar greaduriaid y nos yn ogystal ag ar iechyd corfforol a meddyliol pobl. Mae tua 60% o fioamrywiaeth yn dibynnu ar dywyllwch i oroesi felly gall llygredd golau fod yn niweidiol tu hwnt. Yn rhan o’r prosiect mae’r Tirwedd Cenedlaethol yn monitro dwysedd gwyfynod ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill yn yr ardal.
Meddai Gwenno Jones, Swyddog Awyr Dywyll Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: “Dydi hi heb fod yn hawdd meddwl am ddatrysiad, ond drwy weithio gydag ymgynghorwyr goleuadau awyr dywyll arbenigol, Dark Source, a chwmni goleuadau EcoClub, rydym wedi llwyddo i ddangos ei bod hi’n bosibl darparu goleuadau o safon well sydd yn fwy effeithiol sydd hefyd yn fwy ecogyfeillgar, ac yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol ac yn economaidd.”
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Bydd y goleuadau newydd ar draws y meysydd chwaraeon yma yn arwain at welliant enfawr i breswylwyr yn y rhan yma o Ruthun, gydag ychydig iawn neu ddim golau ymwthiol yn yr ardal neu’r dirwedd. Mae’n arfer gorau am gymaint o resymau ac rydym ni’n gobeithio y gellir ailadrodd y safon yma o olau ar draws Cymru.”
Roedd y meysydd chwaraeon yma’n ffynhonnell fawr o olau ymwthiol oedd yn cyfrannu at lygredd golau oedd yn effeithio ar breswylwyr lleol ac roedd modd eu gweld o filltiroedd i ffwrdd.
Mae’r cynlluniau goleuadau newydd wedi cael eu cefnogi gan raglen gyllid Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy, sy’n cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru a Thirweddau Cymru, ac fe gafodd gyllid gan Fferm Wynt Brenig a Chlocaenog, Chwaraeon Cymru a Hamdden Sir Ddinbych.