A hithau wedi gweithio mewn awdurdodau lleol drwy gydol ei gyrfa, mae Alaw Pierce wedi treulio 40 mlynedd yn helpu preswylwyr Gogledd Cymru drwy’r nifer o swyddi pwysig y mae hi wedi ymgymryd â hwy.

Ar ôl graddio o Brifysgol Bangor, aeth ymlaen i ennill ei Thystysgrif Cymhwyser mewn Gwaith Cymdeithasol a chymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol yn 1983.

Gan ddechrau fel Gweithiwr Cymdeithasol yng Nghyngor Gwynedd ym mis Hydref 1983, symudodd Alaw i weithio yng Nghyngor Sir Clwyd, bryd hynny, yn 1989.

Bu Alaw’n gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol am bron i 11 mlynedd, gan weithio gyda phobl hŷn a phobl ag anableddau corfforol, cyn symud ymlaen i weithio ym maes iechyd meddwl ac yna mewn ysbytai cymunedol.

Yna, ymgymerodd â swydd Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol yn Ysbyty Glan Clwyd a dechreuodd weithio yng Nghyngor Sir Ddinbych yn swyddogol yn sgil yr ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1996.

Yn 2000, symudodd o’r ysbyty i fod yn Rheolwr Tîm ar dimau anableddau dysgu, mynediad a derbyniadau yn y Rhyl.

Ar ôl bod yn Rheolwr Tîm mewn swyddi amrywiol o fewn yr Awdurdod am 16 mlynedd, daeth Alaw yn Rheolwr Gwasanaeth yn 2011, ac mae hi wedi bod yn y swydd honno am 13 mlynedd bellach. Bydd Alaw yn ymddeol yn swyddogol dros y misoedd nesaf.

Wrth drafod ei gyrfa, dywedodd Alaw:

“Roeddwn i eisiau helpu pobl i wneud gwahaniaeth yn eu bywydau, dyna pam y des i’n Weithiwr Cymdeithasol yn y lle cyntaf. Mae’r swydd wedi newid llawer ers i mi ddechrau, ond dw i’n credu mai’r un yw’r egwyddorion craidd.

Mae hi’n swydd wych. Dw i wedi mwynhau pob swydd rydw i wedi bod ynddi. Dw i ddim yn meddwl y byddwn i eisiau gwneud unrhyw beth arall. Pe bawn i’n cael mynd yn ôl i’r dechrau, byddwn yn sicr yn gweithio ym maes gwaith cymdeithasol.

Mae cyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa yn y swydd. Pan ddechreuais i ym maes Gwaith Cymdeithasol, doedd gen i ddim diddordeb mewn bod yn rheolwr. Ond, a bod yn onest, dw i wedi mwynhau’r profiad o fod yn rheolwr, lawn cymaint ag yr wyf wedi mwynhau bod yn Weithiwr Cymdeithasol. Nid yw’r llwybr hwnnw at ddant pawb, ond mae gwahanol lefelau i weithio ym maes Gofal Cymdeithasol.

Mae wedi bod yn yrfa wych ac mae gen i atgofion melys wrth edrych yn ôl. Dw i wedi mwynhau’r fraint o gael bod yn rhan o fywydau pobl. Dw i wedi cwrdd â phobl hyfryd yn ystod fy ngyrfa, ac wedi gweithio â chydweithwyr gwych.”

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Trwy gydol ei chyfnod yn Sir Ddinbych, mae Alaw wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau’r unigolion y mae hi wedi dod i gysylltiad â nhw, ac mae wedi dylanwadu ar a datblygu’r gwasanaethau rydym ni’n eu darparu o fewn yr Awdurdod Lleol, yn ogystal ag ar draws Gogledd Cymru. Mae Alaw yn enghraifft wych o’r yrfa y gellir ei chyflawni fel Gweithiwr Cymdeithasol ac o fewn y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol. Rydym ni i gyd yn dymuno ymddeoliad hir, iach a dedwydd iddi.”