Mae disgyblion Ysgol Henllan wedi torchi eu llewys i helpu i lunio safle newydd y gall byd natur a phreswylwyr ei fwynhau gyda’i gilydd.

Fe fu’r disgyblion yn gweithio’r wythnos hon gyda Cheidwaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr i ddechrau llunio Safle Natur Cymunedol newydd Henllan ar dir y tu ôl i Ffordd Meifod.

Mae’r ardal hon yn un o bedwar safle natur cymunedol newydd - ochr yn ochr ag ardaloedd tebyg yn Y Rhyl, Llanelwy a Chlocaenog - y mae Gwasanaeth Cefn Gwlad a thimau Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ddinbych yn eu creu yn y sir eleni i hybu manteision ar gyfer bywyd gwyllt lleol a lles preswylwyr.

Mae gwaith Safleoedd Natur Cymunedol yn ogystal â gwaith creu coetiroedd mewn ysgolion ar hyd a lled y sir eleni wedi derbyn cyllid a ddaw o grant £800,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae disgyblion wedi bod yn brysur yn palu gan helpu i blannu dros 1,700 o goed ar y safle. Bydd y safle hefyd yn cynnwys llwybrau troed newydd, pwll, dolydd blodau gwyllt, man hamdden ac ardal bicnic, lloches i drychfilod (hynny yw “banc gwenyn”) ac ystafell ddosbarth awyr agored cyn diwedd y flwyddyn hon.

Bydd Safle Natur Cymunedol Henllan hefyd yn helpu i gefnogi ymdrech y Cyngor i leihau ôl-troed carbon y sir drwy gyfrannu at y cyfanswm o garbon a gaiff ei storio (neu ei amsugno) mewn llystyfiant a phriddoedd.