llais y sir

Llais y Sir: Ebrill 2024

Gwasanaeth bws poblogaidd â golygfeydd yn dychwelyd i Ddyffryn Dyfrdwy

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn rhedeg eto eleni i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.

Y Bws Darluniadwy - Bwlch yr Oernant

Mae gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn daith gylchol sy’n cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos ag atyniadau poblogaidd lleol, gan gynnwys Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur Wenffrwd, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Tŷ Hanesyddol Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Y Bws Darluniadwy tu allan i Dŷ Hanesyddol Plas Newydd

Fe fydd y gwasanaeth camu ymlaen a chamu i ffwrdd yn galluogi i deithwyr ymweld â'r atyniadau allweddol hyn heb fod angen car, gan ei gwneud hi’n haws i’r rheiny heb gar deithio i’r lleoedd yma. Bydd yn helpu i leihau tagfeydd yn rhai o ardaloedd prysuraf Dyffryn Dyfrdwy. Mae'r tocyn dydd 1Bws yn werthfawr i'r rhai sydd am fynd ar daith gerdded dywys o'r ardal, ac eleni bydd y gwasanaeth hefyd yn cynnig taliadau i neidio ymlaen ac i ffwrdd ar gyfer teithiau sengl byrrach, gan ei wneud yn opsiwn delfrydol ar gyfer darganfod rhai o deithiau cerdded llinellol yr ardal.

Mae’r gwasanaeth wedi’i greu diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, ac mae’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a phrosiect Ein Tirlun Darluniadwy, cynllun partneriaeth tirlun sy’n ceisio gwarchod a gwella mynediad at dirweddau ysbrydoledig Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Camlas a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte.

Meddai Hannah Marubbi, Swyddog Partneriaeth Ein Tirlun Darluniadwy: “Mae’n bleser gennym ni groesawu Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy am y bedwaredd flwyddyn. Gwelodd y gwasanaeth y nifer uchaf erioed o ddefnyddwyr y llynedd, ac rydym yn gobeithio y bydd y tymor hwn yn rhoi’r cyfle i hyd yn oed mwy o ymwelwyr a thrigolion lleol grwydro’r ardal ehangach.”

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy 199 ar gael ar ddydd Sadwrn yn unig tan ddydd Sadwrn, 30 Awst 2024. I weld yr amserlen lawn a phrisiau tocynnau, ewch i wefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, tudalen we amserlen bysiau y Cyngor, neu codwch daflen o Ganolfan Groeso Llangollen.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...