llais y sir

Llais y Sir: Ebrill 2024

Annog pobl ifanc i hawlio eu cynilion

Gallai nifer o oedolion ifanc yn Sir Ddinbych fod â chyfartaledd o £2,000 yn aros amdanynt yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio.

Mae’r Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrifon cynilo di-dreth hir-dymor a agorwyd ar gyfer pob plentyn a anwyd rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, lle’r oedd y llywodraeth yn cyfrannu blaendal cychwynnol a oedd yn o leiaf £250. Gellir tynnu’r arian ar ôl i’r cyfrif aeddfedu pan fydd y plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 18 oed.

Yn ôl data’r llywodraeth, mae bron i filiwn o bobl ifanc yn y DU dal heb hawlio eu Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant. Mae mwy na 800,000 o gyfrifon yn perthyn i bobl o gefndiroedd incwm isel - sydd yn achosi pryder nad yw’r rheiny sydd fwyaf angen yr arian yn cael mynediad ato.

Bydd pob unigolyn 16 oed yn cael gwybodaeth am sut i ddod o hyd i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi gyda’u llythyr Yswiriant Gwladol. Os oes unrhyw un yn ansicr am eu sefyllfa, yna dylent wirio gyda’u banc neu gymdeithas adeiladu. Fel arall, gall oedolion ifanc a rhieni chwilio ar www.gov.uk/child-trust-funds i ddod o hyd i ble mae eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cael ei gadw.

Mae 5.3 miliwn o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn agored ar hyn o bryd. Gall pobl ifanc 16 oed neu’n hŷn gymryd rheolaeth o’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eu hunain, er na ellir tynnu’r arian o’r gronfa tan fyddant yn 18 oed. Gall teuluoedd barhau i dalu hyd at £9,000 y flwyddyn yn ddi-dreth i’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant tan fydd y cyfrif yn aeddfedu. Mae’r arian yn aros yn y cyfrif tan fydd y plentyn yn ei dynnu allan neu yn ei ail-fuddsoddi i mewn i gyfrif arall.

Os nad oedd rhiant neu warcheidwad wedi gallu agor cyfrif i’w plentyn, bu i’r llywodraeth agor cyfrif cynilo ar ran y plentyn. Bu i’r cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gau ym mis Ionawr 2011 a bu i Gyfrifon Cynilo Unigol (ISA) Plant gymryd eu lle.  

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth o ran costau byw yn Sir Ddinbych, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych www.cadenbighshire.co.uk

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...