Hydref 2025

04/08/2025

Profiadau byd natur gwerthfawr i gefnogi bioamrywiaeth

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar draws tiroedd a dyfroedd Sir Ddinbych i helpu i adfer natur, sy’n wynebu pwysau cynyddol yn sgil effeithiau dynol a newid hinsawdd.

Mae Llais y Sir wedi cael sgwrs ag Evie Challinor, Swyddog Bioamrywiaeth i ddarganfod sut mae hi wedi cyrraedd y swydd hon, sy’n cefnogi natur ar draws ein sir.

Treuliodd Evie’r rhan gyntaf o’i bywyd yn archwilio beth oedd gan awyr agored canolbarth Cymru i’w gynnig i unigolyn ifanc anturus. 

Dywedodd:  “Mae llawer o amaethyddiaeth yng nghanolbarth Cymru; mae’n wahanol iawn i fan hyn.  Mae safleoedd cadwraeth yno, ond nid oedd llawer ohonynt yn lleol i mi.  Fodd bynnag, treuliais oriau o’m bywyd cynnar yn ymgymryd ag anturiaethau amrywiol, sblasio mewn pyllau, dringo coed, dilyn afonydd; lle bynnag y gallwn i grwydro.”

Wrth ystyried ei hastudiaethau Lefel A, magodd Evie ddiddordeb mewn gyrfa yn yr awyr agored ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei hanturiaethau yn ei blynyddoedd cynnar. 

“Mae’r byd naturiol wedi bod yn ddiddordeb bwysig i mi erioed, yn arbennig ecosystemau a chysylltedd y byd naturiol. Roedd gennyf feddwl academaidd, a’r cam nesaf naturiol i mi oedd dilyn gyrfa mewn Bioleg.  

“Yn dilyn rhywfaint o waith ymchwil, dois o hyd i gwrs Sŵoleg, a phenderfynais mai hwn oedd y cam nesaf i mi.  Mynychais Brifysgol Bangor lle treuliais 3 blynedd yn astudio Sŵoleg.  Roedd yn wych cael Eryri ac Ynys Môn ar garreg drws ar gyfer dysgu a hamdden… roedd yn Brifysgol wych.”

Mae pobl sy’n caru anifeiliaid yn aml yn tueddu i astudio Sŵoleg i gynnal eu hangerdd am gadwraeth.

Eglurodd Evie: “Credaf fod nifer o bobl yn sylweddoli ar ôl cyrraedd na ellir astudio anifeiliaid yn unig.  Mae’n rhaid dysgu am blanhigion hefyd, ac mae hynny’n wir am fy swydd bresennol.  Mae planhigion yn sylfaen i bopeth.”

“Wrth astudio fy nghwrs israddedig, ymddiddorais mewn sŵoleg gymharol, sef astudio addasiadau unigryw anifeiliaid a’u hymddygiad.  Mae hyn wedi fy arwain i lawr y llwybr anthropoleg ac esblygu, gan gynnwys ystyried sut mae anifeiliaid a phlanhigion wedi addasu i’w hamgylchiadau.   Datblygodd hyn i fod yn ddiddordeb mewn cadwraeth, a’m hysgogodd i aros a chwblhau cwrs Meistr mewn Cadwraeth a Rheoli Tir.”

Llwyddodd Evie i ennill profiad yn ystod ei chyfnod ym Mangor, gan dreulio cyfnod yn gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Chymdeithas Eryri.

“Roedd Cymdeithas Eryri’n weithredol iawn yn yr ardal ac yn sefydliad gwych i fyfyrwyr ennill profiad â hwy.  Roeddent yn darparu cludiant, a oedd o gymorth mawr i mi fel myfyriwr heb gar.  Cefais gyfle i wneud llawer o waith rheoli cynefinoedd ymarferol o ganlyniad.

“Roedd gennyf hefyd ffrindiau a oedd yn gwneud llawer o waith â’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid yn yr ardal hon, felly fe wnes i rywfaint o waith rheoli cynefinoedd iddynt yn Ynys Môn hefyd.   Treuliais amser gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hefyd, ac roeddwn yn ddiogn ffodus i gwblhau hyfforddiant arolygu llygoden bengron y dŵr gyda nhw.  Dechreuais ymgymryd â rhywfaint o waith gwirfoddol tuag at ddiwedd fy nghwrs meistr.” 

Cyn graddio gyda’i chwrs meistr, llwyddodd Evie i gael swydd gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio ar draws Cymru.

“Roedd yn seiliedig ar lefel strategol; roeddent yn ceisio dod â’u cynlluniau rheoli ar gyfer eu portffolios gwahanol at ei gilydd a dechrau gwireddu eu sgyrsiau ymarferol drwy baru prosiectau â chyllid.”

“Ymunais â’r tîm i helpu â chydlynu. Roedd yn swydd wych, yn enwedig i rywun a oedd newydd adael y Brifysgol - cefais brofiadau gwerthfawr iawn.”

Yn anffodus i Evie, fel miloedd o bobl eraill, daeth y swydd hon i ben yn sgil y pandemig Covid gan iddi dderbyn diswyddiad gwirfoddol o ganlyniad i’r effaith enfawr a gafodd y cyfnod hwn ar nifer o sefydliadau gwahanol yn y DU.

Fodd bynnag, llwyddodd Evie i ddod o hyd i swydd arall yn fuan iawn o fewn adran aelodaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaer, yn ogystal â gweithio fel ceidwad coedwig gyda chwmni arall.

Cymerodd Evie ei chamau cyntaf yn Sir Ddinbych yn fuan ar ôl iddi symud i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fel ceidwad yn Nyffryn Dyfrdwy. 

Yn dilyn haf yn gweithio gyda thîm Dyffryn Dyfrdwy, treuliodd y naw mis nesaf yn Loggerheads, cyn symud ymlaen i weithio i Glandŵr Cymru.

Fe esboniodd: “Roeddwn wrth fy modd â’r swydd hon am sawl rheswm, ond yn teimlo nad oedd yn rhoi digon o amser i mi ymroi i ddatblygu rhai o’r sgiliau yr oeddwn yn teimlo oedd ar goll gennyf.  Fe wnaeth fy swydd newydd fel ymgynghorydd ecolegol ar gyfer Glandŵr Cymru fy ngalluogi i ennill rhywfaint o’r profiad hwn a helpu i adfer Camlas Trefaldwyn.”

Cyfaddefodd Evie, yn dilyn blwyddyn â Glandŵr Cymru, gwelodd hysbyseb am ei swydd ddelfrydol, sef ei swydd bresennol.

Dywedodd:  “Roedd gennyf brofiad ymarferol o reoli cynefinoedd a digon o brofiad ymgynghorol, ond un peth yr oeddwn yn awyddus iawn i’w ddatblygu oedd yr arolygon rhywogaethau a chynefinoedd, sy’n rhan wobrwyol iawn o’r sector.  

“Teimlaf fod fy mod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn fy arbenigedd arolygu drwy dreulio amser allan yn crwydro.  Mae’n gwneud i mi deimlo’n dda; rwy’n cyrraedd adref ar ddiwedd y dydd yn teimlo’n hapus.  Teimlaf fod ein prosiectau’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.  Mae hynny’n ffordd dda iawn o fesur bodlonrwydd rhywun mewn swydd yn fy marn i.”

Mae uchafbwyntiau Evie yn ei swydd fel Swyddog Bioamrywiaeth hyd yma’n cynnwys dod ar draws madfall ddŵr gribog am y tro cyntaf ar un o’i safleoedd gwaith, a dod ar draws pathew am y tro cyntaf hefyd.  

“Rwyf hefyd wrth fy modd yn cynnal arolygon madfall ddŵr gribog.  Rydym wedi bod yn gwirio blychau a sicrhau bod y safleoedd yn cyrraedd y safon ofynnol… rydym yn codi’r caead ac yn cael cipolwg i weld a oes unrhyw beth yno!  Mae’n hyfryd,  yn enwedig pan geir arwyddion o feddiannaeth drwy weld trwyn bach yn pipian allan”. 

Cyngor Evie i’r holl gefnogwyr natur o gwmpas sy’n awyddus i ddilyn ei olion traed yw: “ewch allan i wirfoddoli”. 

Fe esboniodd: “Mae cael eich troed yn y drws yn arwydd o angerdd.  Bydd datblygu’r cysylltiadau hynny gyda’r bobl gywir yn dysgu llawer i chi.”

A’i huchelgeisiau yn y swydd? 

“Rwy’n gweithio’n galed ar hyn o bryd i gael fy nhrwydded gyntaf, sef trwydded madfall ddŵr gribog.  Bydd ennill fy nhrwydded gyntaf yn garreg filltir enfawr i mi, a gobeithiaf y bydd mwy o’r rhain i ddod yn y dyfodol. 

“Rwyf hefyd yn awyddus i gwblhau prosiect pyllau; mae gennyf nifer o ddyheadau mewn perthynas â hyn.  Hoffwn greu pyllau newydd a rhwydwaith o bobl i rannu gwybodaeth â hwy ar draws Sir Ddinbych, a chreu adain ledaenu.

Ychwanegodd:  “Felly rwy’n cynnal llawer o arolygon ar hyn o bryd ac yn chwilio ar draws safleoedd am blanhigion ar gyfer y blanhigfa goed er mwyn eu lledaenu a sicrhau ffynhonnell hadau lleol ar ein cyfer.  Mae’n llawer o hwyl!”

 

 

Comments