13/03/2026
Llyfr stori arbennig yn dathlu gwaith i helpu aderyn prin

Mae llyfr arbennig yn helpu i ddiogelu hanes cefnogaeth ffermio bwysig ar gyfer aderyn dan fygythiad.
Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn rhan o brosiect “Cysylltu Gylfinir Cymru,” prosiect partneriaeth Adfer Gylfinir Cymru sy’n gweithio ochr yn ochr â Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helgig a Bywyd Gwyllt.
Roedd y fenter hon yn rhan o raglen ehangach Gylfinir Cymru, partneriaeth Cymru gyfan sy'n ymroddedig i gefnogi poblogaethau Gylfinir sy'n bridio ledled y wlad, gan gynnwys yn Sir Ddinbych.
Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Treftadaeth y Loteri yn dod i ben ar gyfer y prosiect ond bydd y tîm Tirweddau Cenedlaethol yn dal i weithio i ddiogelu’r aderyn prin yn eu hardal.
Ers ei dechrau, mae’r rhaglen wedi helpu i gryfhau amodau sydd eu hangen ar gyfer adfer y gylfinir trwy wella dulliau rheoli cynefinoedd, gwella prosesau monitro a chasglu data, cynyddu capasiti lleol ar gyfer gweithredu ecolegol a meithrin perthnasoedd cryf ar sail ymddiriedaeth gyda ffermwyr.
I nodi’r gefnogaeth gymunedol enfawr a roddwyd i’r prosiect, bu staff y prosiect yn gweithio gyda’r awdur Peter Evans i ddarparu cofnod o’r gwaith a’r ymroddiad a welwyd er mwyn rhoi gobaith i’r gylfinir.
Mae llyfr o’r enw Sali and the Call of the Curlew wedi’i gyhoeddi. Mae’n cofnodi taith dymhorol y gylfinir ar ffermdir o safbwynt merch fach o’r enw Sali a’i Thaid sy’n ffermwr. Mae Sali yn dilyn Pegi y gylfinir, sy’n dychwelyd i’r fferm bob gwanwyn a’u taith i’r tymor bridio nesaf.
Lluniodd y Swyddog Gylfinir a Phobl Lleol, Sam Kenyon, gefndir y stori o’i phrofiadau a daeth yr awdur a gwirfoddolwr y prosiect, Peter Evans, â’i syniadau’n fyw gyda help gan ddisgyblion o Ysgol Caer Drewyn, Ysgol y Waun ac Ysgol Bro Dyfrdwy, ynghyd â’r storïwr, Fiona Collins.
Mae’r llyfr yn dangos helynt y gylfinir, ond gyda help ei Thaid, mae Sali yn gweld sut gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr ac mae’r ddau yn mynd ati i geisio sicrhau bod mwy o gywion yn goroesi’r tymor bridio ar y fferm.

Bu plant ysgol gynradd o Ysgol Bro Elwern ac Ysgol Betws Gwerful Goch yn helpu i ddod â’r llyfr stori yn fyw hefyd trwy liwio’r lluniau a grëwyd o bapur ar ffurf collage gan y Swyddog Ymgysylltu Cymunedol dawnus, Jillian Howe.
Mae’r llyfr wedi’i ddylunio i fod yn hygyrch i bobl â Dyslecsia hefyd, diolch i’r ffont a ddefnyddiwyd.
Yn derbyn lansiad swyddogol yn ysgol gynradd Llangollen Ysgol Gymraeg Y Gwernant gyda chefnogaeth Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych y Cynghorydd Arwel Roberts, bydd copïau Cymraeg a Saesneg ar gael yn llyfrgelloedd Sir Ddinbych ac ysgolion sydd wedi helpu i gefnogi’r prosiect dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Eglurodd y Swyddog Gylfinir a Phobl Lleol, Sam Kenyon, sydd wedi arwain y prosiect dros y ddau dymor diwethaf, fod y llyfr yn ddathliad o’r gwaith caled gan bawb a roddodd help llaw i’r gylfinir ac ymgysylltu â’r rhaglen ehangach dros y ddwy flynedd.
“Roeddem am wneud rhywbeth arbennig i ddathlu diwedd y prosiect, yn enwedig yn dilyn y gefnogaeth wych a gawsom gan y ffermwyr, gwirfoddolwyr, plant ysgol a phobl eraill sydd wedi chwarae eu rhan i roi cyfle i’r aderyn hwn yn ein hardal. Rwyf mor falch o’r gefnogaeth mae’r gymuned ffermio wedi ei rhoi i’n gwaith, ac rwy’n gobeithio bod y stori hon yn amlygu’r ymrwymiad y gall llawer o bobl ei roi, ac y mae llawer yn ei roi i helpu’r gylfinir.
“Ar gyfer 2025, diolch i ymdrech gyfun pawb, llwyddodd chwe chyw i fagu plu, a oedd yn hwb i’r boblogaeth gylfinir leol. Mae’n addas bod modd i ni ddathlu’r ymdrechion gan bob cymuned a gymerodd ran trwy adael y llyfr hwn i aelodau iau y gymuned ei ddarllen a dysgu sut maen nhw a’n cymunedau gwledig yn gallu gwneud gwahaniaeth i’r gylfinir.
“Mae’n braf gweld sut mae pawb wedi dod at ei gilydd i helpu’r prosiect ac rwyf am ddiolch i Peter a disgyblion yr ysgol am nodi’r daith hynod o gadarnhaol hon. Ond gallwn eich sicrhau na fydd y Dirwedd Genedlaethol yn atal eu hymdrechion sydd eu hangen i ofalu am yr aderyn hynod a phrin hwn, a bydd gwaith yn parhau wrth i ni symud i’r dyfodol i ddarparu help i’r gylfinir eiconig.”