Mawrth 2026

01/03/2026

Pencampwr o'r Rhyl yn hau gobaith i'r byd naturiol

Mae un o gefnogwyr ifanc brwd byd natur wedi ennill gwobr am roi help llaw i dyfu gwell dyfodol i blanhigion a choed yn Sir Ddinbych.

Mae Ellie Hughes o’r Rhyl yn un o blith nifer cynyddol o bobl sy’n ymuno â’r gymuned o wirfoddolwyr ym mhlanhigfa coed cynhenid y Cyngor yn Llanelwy.

Ei brwdfrydedd am bopeth ym myd natur sy’n ysgogi Ellie, sydd i’w gweld yn aml yng ngwarchodfeydd natur gogledd y sir, yn torchi ei llewys wrth helpu ceidwaid cefn gwlad gyda gorchwylion tymhorol.

Y brwdfrydedd hwnnw a ddenodd Ellie i gymuned y blanhigfa goed, ac yn ddiweddar fe enillodd wobr Person Ifanc y Flwyddyn yng ngwobrau Bionet (Partneriaeth Natur Gogledd Ddwyrain Cymru) 2025 am ei hymroddiad i hybu natur yn lleol.

Cafodd Llais y Sir sgwrs ag Ellie pan oedd hi’n gwirfoddoli yn y blanhigfa goed, i gael clywed rhywfaint am ei hymgyrch benigamp i gynnal byd natur ar garreg ei drws.

Bu Ellie’n fyfyriwr yng Ngholeg Cambria Llaneurgain a Choleg Llysfasi ac fe ymunodd â chymuned gwirfoddolwyr y blanhigfa goed ym mis Mawrth y llynedd, gan ddod bob wythnos yn selog ers hynny, yn ogystal â gwirfoddoli drwy’r cynllun Natur Er Budd Iechyd i helpu ar safleoedd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.

Wrth gofio’r tro cyntaf y daeth hi o hyd i’r blanhigfa, dywedodd Ellie: “Roedd o’n agos at adref ac roeddwn i’n mynd i’r coleg ar y pryd, yn cael dydd Mercher i ffwrdd, a fy nhad wnaeth awgrymu mod i’n mynd i wirfoddoli yno.”

Mae’r blanhigfa’n tyfu coed a blodau gwyllt cynhenid gyda hadau a gesglir ledled y sir ac mae’n rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a dysgu mwy am fyd natur yng ngwarchodfa natur helaeth Green Gates, sy’n ymestyn dros 70 o erwau o dir.

Meddai Ellie: “Dwi wrth fy modd yn bod allan yn yr awyr agored yn helpu byd natur ac mae’n gwneud lles i iechyd rhywun hefyd.  Dwi’n hoff o gwrdd efo’r gwirfoddolwyr eraill a rhoi help llaw yn y warchodfa natur a gweithio yn y twneli plastig, a chael trin a thrafod y coed drwy’r amser. “Mi welais i robin goch yn dod i mewn i’r twneli; mi welais i wiwer lwyd y tu allan y diwrnod o’r blaen hefyd.”

Diolch i gymorth y staff ar y safle a’r gymuned o wirfoddolwyr, mae Ellie’n dweud fod dod i’r blanhigfa goed wedi ei helpu i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.

Meddai:  “Dwi wedi dysgu cymaint o bethau, fel sut i hau hadau, pethau i helpu planhigion i dyfu… plannu coed yn y caeau, dwi’n meddwl mod i wedi helpu i blannu tua mil ohonyn nhw. Mi ges i ddod i adnabod pobl, cael gwybod beth maen nhw’n ei wneud, beth ydi eu gwaith nhw, mae o’n dda.  Dwi’n cael dysgu sgiliau ganddyn nhw hefyd wrth iddyn nhw roi help imi.”

Pa gyngor sydd ganddi i rywun sydd efallai â diddordeb mewn rhoi cynnig ar ddysgu pethau newydd yn y blanhigfa goed?

Mae’n dweud:  “Ewch amdani; mae’n gyfle gwych i ddysgu sgiliau gwych ac efallai cael gwaith yn y maes yn y dyfodol. Mae’r ddau o’r staff yn hyfryd, yn wych i sgwrsio efo nhw ac maen nhw’n dangos sgiliau newydd imi a rhoi help imi ddeall mwy am beth maen nhw’n ei wneud yma.”

Dywedodd Sam Brown, Cynorthwyydd y Blanhigfa Goed: “Mae’n fendigedig i gael Ellie yma ac rydyn ni’n syfrdanu bob wythnos mor ymroddgar ydi hi wrth helpu, dysgu sgiliau newydd a datblygu ei gwybodaeth am fyd natur yn Sir Ddinbych.

“Mae hi’n rhan bwysig o gymuned wych o wirfoddolwyr yn y blanhigfa goed ac rydym yn eithriadol o falch ohoni am ennill gwobr Person Ifanc Bionet; mae ei brwdfrydedd dros helpu i warchod beth sydd gennym yn yr awyr agored yn ysbrydoliaeth enfawr inni.”

Os hoffech chi wirfoddoli yn y blanhigfa goed, e-bostiwch eich manylion i: biodiversity@denbighshire.gov.uk

Comments