Mawrth 2026

27/03/2026

Crëwch eich dôl fechan eich hun i helpu natur yn lleol

Oeddech chi’n gwybod ei bod hi’n hawdd rhoi help llaw i natur o’ch gardd gefn eich hun?

Mae paratoadau ar eu hanterth ar gyfer ein tymor Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt 2026.  Dechreuodd y prosiect yn 2019 ac mae’n cynnwys tua 70 o erwau o ddolydd blodau gwyllt cynhenid sy’n creu cynefinoedd i warchod a chynnal byd natur yn lleol a hybu lles ein cymunedau ledled y sir. Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Gall preswylwyr ymweld â dolydd sydd wedi’u marcio â’r arwydd Caru Gwenyn, ond fe all y rhai sydd eisiau gwneud eu cyfraniad eu hunain o’u cartref hefyd greu eu dôl fechan i gefnogi natur yn lleol.

Y cam cyntaf yw penderfynu ar y lle gorau ar gyfer eich dôl yn eich gardd.  Dewiswch ardal nad yw’n rhy gysgodol a lle’r ydych chi’n hapus i’r gwair dyfu’n hir. Gallwch ddewis yr ardd gyfan neu ddim ond darn a gadewch i’r ardal dyfu.

Yn ystod mis Ebrill yw’r amser gorau i wneud y penderfyniad i adael eich dôl fechan i dyfu fel y mae. Cofiwch ei bod hi’n cymryd amser i ddôl ffurfio ac mae hi’n bwysig gadael iddi ddatblygu i weld beth y bydd yn ei gynhyrchu.

Y blodau gwyllt a fydd yn ffynnu orau yn eich dôl yw llygad llo mawr, bengaled benddu a blodyn taranau.

Fe fyddwch chi’n dechrau gweld newidiadau yn eich dôl ddiwedd mis Mai wrth i’r blodau gwyllt ddechrau tyfu. Wrth i fis Mehefin gyrraedd, fe all y blodyn ei hun ddechrau ymddangos drwy eich dôl.

Fe fydd eich dôl fechan ar ei hanterth yn cefnogi natur ym mis Gorffennaf, mae hi’n amser da i gynnal helfa pryfed drwy eich ardal i ganfod pa bryfed sy’n mwynhau eich creadigaeth.  

Yn ogystal â chwilio pa flodau gwyllt sydd gennych yn blodeuo yn eich dôl, cofiwch gadw golwg ar y mathau gwahanol o laswellt. Tra’n bod ni’n aml yn canolbwyntio ar blannu blodau gwyllt ar gyfer peillwyr, mae nifer o laswellt cynhenid yr un mor bwysig i lindys neu loÿnnod byw a rhywogaethau o wyfynod.

Mae mis Awst yn amser gwych i’ch dôl fechan gan y byddwch chi’n sylwi ar newid araf yn yr hyn sy’n blodeuo, gyda rhywogaethau cynharach yn dechrau hadu a rhywogaethau hwyrach yn cychwyn blodeuo.  Mae rhywogaethau y gallech sylwi arnynt sy’n blodeuo ar ddiwedd yr haf yn cynnwys pengaled benddu a milddail, mae’r ddau yn wych i beillwyr sy’n ymweld â’ch gardd.

Yn ystod mis Awst mae hi hefyd yn amser i fonitro pryd y mae angen i chi dorri eich dôl fechan. Os oes gennych chi ddigon o flodau fe allech chi ei gadael tan fis Medi.  Fe allwch chi hefyd amrywio’r amseroedd torri ar draws y flwyddyn neu rannau gwahanol o’ch dôl eich hun yn dibynnu ar y maint, i’w wneud yn fwy amrywiol i gefnogi natur.  Fe fydd torri gwair yn cael gwared ar faeth o’r ddaear gan roi’r cyfle gorau i flodau gwyllt yn yr ardal i ffynnu.

Cofiwch gael gwared ar yr holl doriadau ar ôl i’r hadau ddisgyn ac ar ôl iddynt sychu.  Awgrym da yw cadw eich ardal gompost mor bell i ffwrdd â phosibl o’ch dôl fechan i atal maeth dros ben rhag llifo yn ôl mewn i’r ardal ac effeithio ar dyfiant y blodau gwyllt.

Wrth i fis Medi symud yn ei flaen, mae hi’n amser i roi seibiant haeddiannol i’ch dôl fechan.  Fe allwch adael y toriad nesaf tan fis Ebrill neu ei dorri sawl gwaith i gynnal yr ardal os ydi tywydd y gaeaf yn aros yn fwyn.  Cyn i chi dorri eich dôl fechan, meddyliwch yn ôl ar yr hyn rydych wedi’i weld yn tyfu drwodd y tymor yma a’r pryfed a ymwelodd â’r safle fel cofnod wrth symud ymlaen ar gyfer pennod nesaf eich dôl fechan. 

 

 

 

Comments