02/09/2026
Noson o Gerddoriaeth Gitâr Glasurol yn Nantclwyd y Dre
Gwahoddir unigolion sy’n mwynhau cerddoriaeth i ddod i fwynhau noson fythgofiadwy o gerddoriaeth gitâr glasurol yn amgylchedd hyfryd tŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre fis Medi.
Ddydd Mawrth 8 Medi, bydd y gitarydd enwog, Jonathan Richards, yn perfformio rhaglen ddiddorol sy'n cynnwys cymysgedd eclectig o gerddoriaeth y Dadeni a cherddoriaeth draddodiadol, ochr yn ochr â gweithiau poblogaidd gan y meistri Isaac Albéniz ac Enrique Granados o Sbaen, yn ogystal â detholiad o'i gyfansoddiadau gwreiddiol ei hun.
Mae Jonathan Richards yn enwog am ei berfformiadau mynegiannol a'i allu cerddorol eithriadol, ac mae wedi cael canmoliaeth gan feirniaid ledled y DU:
Dywedodd Kate Thomson, Rheolwr Safle Nantclwyd y Dre:
“Rydym ni wrth ein bodd yn cael cynnal y perfformiad hwn yn rhan o’n cyfres barhaus o berfformiadau cerddoriaeth glasurol a’n rhaglen ddigwyddiadau newydd yma yn Nantclwyd y Dre. Mae'r amgylchoedd hanesyddol yn cynnig lleoliad unigryw a chlyd ar gyfer perfformiadau agos atoch, ac yr ydym ni wrth ein bodd yn gweithio gyda Jonathan Richards i ddod â rhagor o berfformiadau cerddoriaeth glasurol fyw i Ruthun.”
Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal rhwng 7.00pm a 9.00pm (amser gorffen yn fras), a bydd lluniaeth ar gael i'w brynu yn ystod yr egwyl. Mae tocynnau yn £15 a gellir eu prynu o Nantclwyd y Dre yn ystod yr oriau agor: Dydd Iau, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, 10:30am - 3:30pm. Argymhellir i chi archebu lle ymlaen llaw.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy treftadaeth@sirddinbych.gov.uk