23/06/2026
Gwybodaeth ddiweddaraf am waith gwella parth cyhoeddus Rhuthun

Gall Cyngor Sir Dinbych gadarnhau y bydd Gŵyl Rhuthun yn mynd rhagddi fel y cynlluniwyd, gyda'r prif ddigwyddiad ar Sgwâr San Pedr yn digwydd ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2026.
Gan fod y cam presennol o waith gwella parth cyhoeddus i fod i gael ei gwblhau cyn y prif ddigwyddiad, mae'r cyngor yn cadarnhau'r ymrwymiad a wnaed wrth gynllunio'r gwaith i sicrhau na fyddai'r ŵyl a'r cyfnod cyn y Nadolig, gan gynnwys y Strafagansa Nadolig, yn cael eu heffeithio.
Mae'r Cyngor ac Adeiladwaith OBR wedi cefnogi Pwyllgor yr Ŵyl gyda'r trefniadau rheoli traffig ar gyfer y digwyddiad ac maent yn gweithio'n agos gyda'r trefnwyr i sicrhau bod y paratoadau ar gyfer y diwrnod wedi'u cwblhau.
Er bod y gwaith yn mynd ymlaen yn dda, gyda Stryd y Ffynnon yn ailagor i draffig unffordd erbyn diwedd mis Mehefin, mae rhai newidiadau wedi'u gwneud i'r dyluniad i gynyddu cryfder adeiladwaith y palmant. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn costau a fydd yn cael ei dalu'n llawn gan gronfeydd wrth gefn o fewn y cyllid grant ar gyfer y prosiect.
Oherwydd y gwaith ychwanegol sydd ynghlwm, gwnaed y penderfyniad i gyflymu’r cynnydd ar rai camau o'r gwaith er mwyn manteisio i'r eithaf ar y tywydd gwell dros yr haf. Fodd bynnag, bydd y newid i'r dyluniad yn golygu y bydd y dyddiad cwblhau adeiladu a ragwelir yn cael ei ymestyn i ddiwedd mis Ionawr 2027. Mewn geiriau eraill, ar ôl rhoi'r gorau i'r gwaith ar gyfer y Strafagansa a'r paratoadau ar gyfer cyfnod y Nadolig, bydd y gwaith yn ailgychwyn eto mis Ionawr.
Bydd y newid dylunio hwn yn cynyddu hirhoedledd y palmant ac yn ei wneud yn fwy gwydn i ddifrod. Yn ei dro, bydd hyn yn helpu i gynnal ymddangosiad deniadol y palmant ymhell i'r dyfodol ac yn lleihau'r angen am unrhyw waith atgyweirio yn y dyfodol.
Bydd rhagor o wybodaeth am y prosiect yn cael ei rhannu maes o law ynghylch y rhaglen waith diwygiedig, fel bod busnesau a thrigolion yn cael rhybudd ymlaen llaw o ble a phryd y bydd y gwaith yn digwydd, ac o lwybrau dargyfeirio cysylltiedig.