15/06/2026
Safle adeiladu ar Marine Drive i'w Adfer yn Laswelltir Agored
Cyfarfu Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Helen White, ynghyd â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Economi a'r Amgylchedd, Tony Ward a Chynghorydd Dwyrain y Rhyl ac Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Barry Mellor, heddiw â thrigolion Marine Drive, y Rhyl i drafod cynlluniau ar gyfer safle Balfour Beatty a'r datblygiad arfaethedig o feysydd parcio i gartrefi modur yn Sir Ddinbych.
Yn dilyn pryderon a godwyd gan y gymuned leol, mae'r Cyngor wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r datblygiad arfaethedig ar safle Marine Drive ar hyn o bryd. Yn lle hynny, bydd y ffocws nawr ar adfer hen safle Balfour Beatty yn llawn, gan ddychwelyd y tir yn laswelltir agored a chaeau chwarae a chael gwared ar yr holl seilwaith cysylltiedig, gan gynnwys y ffensio.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, "Ar ôl gwrando ar bryderon lleol dros yr wythnosau diwethaf gan drigolion a chyd-gynghorwyr, rwyf wedi gofyn i swyddogion oedi a myfyrio ar y datblygiad arfaethedig ar safle Marine Drive. Ni fydd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a byddwn yn dychwelyd y safle presennol i'w gyflwr gwreiddiol cyn gynted ag y bo modd gwneud hynny. Hoffwn ddiolch i'r trigolion am eu hamser ac am leisio eu pryderon."
Dywedodd Warren Bennet, ar ran trigolion Marine Drive, “Roedd yn werthfawr iawn eistedd gyda Helen White, Tony Ward a’u tîm i drafod hen safle Balfour Beatty ar Marine Drive. Bu llawer o wrando a thrafodaeth ragweithiol a arweiniodd at gytundeb unfrydol y dylid adfer y meysydd chwarae a chael gwared â’r ffens las. Rydym yn parhau i gefnogi ehangu Ysbyty Alex a datblygiad maes parcio i gartrefi modur ar Stryd Cei, ac yn edrych ymlaen at ddatblygu perthynas gref, barhaol â swyddogion Cyngor Sir Ddinbych.”
Mae'r Cyngor yn dal yn awyddus i ddatblygu meysydd parcio cartrefi modur ledled y sir gan y bydd yn darparu manteision economaidd i'n trefi, yn hybu'r cynnig twristiaeth yn ogystal â darparu cyfleusterau priodol i ddefnyddwyr cartrefi modur. Roedd swyddogion wedi cyflwyno cynnig yn nodi 6 safle ledled y sir. Nodwyd dau safle yn y Rhyl - un ar Marine Drive a'r llall ar Stryd y Cei. Un rheswm pam y nodwyd Marine Drive fel safle posibl oedd er mwyn mynd i'r afael â'r broblem bresennol o gartrefi modur yn parcio'n anghyfreithlon gyferbyn ag eiddo preswyl yn ystod tymor yr haf.
Bydd y cynigion ar gyfer y pum maes parcio cartrefi modur arall nawr yn dilyn y weithdrefn gynllunio arferol a fydd yn cynnwys cyfle i'r cyhoedd wneud sylwadau. Bydd y safleoedd hyn yn darparu parcio dros nos diogel am gyfnod byr (uchafswm o 2 noson) ar gyfer cartrefi modur. Bydd gan y safleoedd gyfleusterau i wagio dŵr gwastraff/dŵr budr ac i ail-lenwi cartref modur â dŵr. Ni chaniateir unrhyw farbeciws, ni chaniateir unrhyw danau, ni chaniateir unrhyw gynfasau, ac ni chaniateir unrhyw bebyll. Bydd y baeau cartrefi modur yn ardaloedd caled sylfaenol ar gyfer defnydd arhosiad byr yn unig.