01/06/2026
Pencampwriaeth Dan-19 UEFA yn dod i ogledd Cymru
Bydd Cymru yn cynnal Pencampwriaeth Dan-19 Ewrop UEFA 2026 rhwng 28 Mehefin ac 11 Gorffennaf a bydd Cymru’n croesawu Croatia, Denmarc, yr Almaen, yr Eidal, Serbia, Sbaen, a'r Wcráin.

Caiff y gemau eu chwarae ym Mharc Canolog, Dinbych, Stadiwm Dinas Bangor, Yr Oval, Caernarfon, a'r Cae Ras yn Wrecsam. Yn ogystal, bydd dwy dref arall yn Sir Ddinbych yn darparu meysydd hyfforddi i dimau, gyda Rhuthun yn croesawu'r tîm o Sbaen a'r Rhyl yn croesawu Croatia.
Y grwpiau yw:
Grŵp A - Cymru, Denmarc, yr Almaen, Sbaen
Grŵp B - Croatia, Serbia, yr Eidal, yr Wcráin
Dyddiadau’r gemau cyntaf yw:
Dydd Sul, 28 Mehefin
Grŵp A
Cymru v Sbaen (Wrecs, 19:00)
Yr Almaen v Denmarc (Dinbych, 21:00)
Dydd Llun, 29 Mehefin
Grŵp B
Yr Eidal v Serbia (Caernarfon, 17:00)
Croatia v Wcráin (Bangor, 21:00)
Dydd Mercher, 1 Gorffennaf
Grŵp A
Denmarc v Sbaen (Dinbyc, 19:00)
Cymru v Yr Almaen (Wrecsam, 21:00)
Dydd Iau, 2 Gorffennaf
Grŵp B
Croatia v Yr Eidal (Caernarfon, 15:00)
Serbia v Wcráin (Bangor, 19:00)
Dydd Sadwrn, 4 Gorffennaf
Grŵp A
Denmarc v Cymru (Wrecsam, 15:00)
Sbaen v Yr Almaen (Dinbych, 15:00)
Dydd Sul 5 Gorffennaf
Grŵp B
Serbia v Croatia (Caernarfon, 17:00)
Wcráin v Yr Eiddal (Bangor, 17:00)
Gallwch brynu tocynnau drwy dudalen y twrnamaint ar wefan Tocynnau Cymdeithas Bêl-Droed Cymru