16/11/2026
Creu Cannoedd o Babïau ar gyfer Llwybr Coffa Dydd y Cofio yn y Rhyl
Mae tua 800 o babïau a wnaed â llaw wedi trawsnewid Gerddi Botaneg y Rhyl yn fan o gofio a myfyrio ar gyfer coffáu Diwrnod y Cofio eleni.
Crëwyd Llwybr Pabi’r Cofio drwy bartneriaeth rhwng y Gerddi Botaneg, ysgolion lleol a grwpiau cymunedol. Ymhlith y cyfranogwyr roedd disgyblion o Achieve, sef uned anghenion dysgu ychwanegol Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Bryn Hedydd, Ysgol Emmanuel, gofalwyr sy’n cael cymorth gan Credu, a gwirfoddolwyr y Gerddi Botaneg.
Creodd Uned Achieve dros 220 o babïau a thorch goffa wedi’i gwneud o boteli plastig wedi’u hailgylchu. Cyfrannodd disgyblion Blwyddyn 4 Ysgol Bryn Hedydd tua 120 o babïau, tra bod gofalwyr sy’n cael cymorth gan Credu wedi gwneud tua 100. Creodd gwirfoddolwyr y Gerddi Botaneg oddeutu 300 o babïau.
Mae’r llwybr, sy’n dechrau gyda silwetau Tommy a baneri coffa, wedi derbyn ymateb cadarnhaol gan ymwelwyr, gyda’r trefnwyr yn gobeithio ehangu’r arddangosfa dros y blynyddoedd i ddod.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae’r creadigrwydd a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan y disgyblion sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn yn ysbrydoledig. Yn ogystal â chreu teyrnged hardd, maen nhw wedi dysgu am bwysigrwydd cofio a’r aberth a wnaed gan eraill. Diolch i bawb sydd wedi dod ynghyd i wireddu’r llwybr hwn.”
Diolchodd y trefnwyr i’r holl gyfranwyr am eu hamser a’u creadigrwydd, yn ogystal â thîm Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych am helpu i gydosod a gosod yr arddangosfa.
Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae’r llwybr hwn yn enghraifft wych o ysgolion, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn dod ynghyd i greu rhywbeth ystyrlon. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’n tîm Gwasanaethau Stryd am helpu i baratoi’r safle a gosod yr arddangosfa.”
Dywedodd Clare Probert o Ysgol Bryn Hedydd: “Mwynhaodd y plant greu’r pabïau a dysgu pam mae Diwrnod y Cofio yn bwysig. Roedd yn braf eu gweld yn ymgysylltu â’r prosiect a deall yr ystyr sydd y tu ôl iddo.”
Dywedodd llefarydd ar ran darpariaeth Achieve Ysgol Uwchradd y Rhyl: “Bu’r myfyrwyr yn gweithio’n hynod o galed ochr yn ochr â Mrs Price a Miss Randles i greu casgliad hyfryd o arddangosfeydd pabi, a gafodd eu harddangos yn y Gerddi Botaneg ar gyfer Diwrnod y Cofio. Cafodd y pabïau eu dylunio a’u creu’n ofalus gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailddefnyddio. Rhoddodd hyn gyfle gwerthfawr i’r myfyrwyr archwilio cynaliadwyedd a deall sut y gellir trawsnewid deunyddiau bob dydd yn rhywbeth newydd, ystyrlon a hardd.
“Mwynhaodd ein myfyrwyr yn fawr iawn gymryd rhan yn y digwyddiad cymunedol arbennig hwn, gan weithio ochr yn ochr ag ysgolion lleol eraill a rhannu eu creadigaethau. Roedd yn gyfle gwych i ddathlu eu creadigrwydd, dangos eu doniau ac, yn bwysicaf oll, teimlo eu bod yn rhan werthfawr o’n cymuned leol. Rydym yn hynod falch o’u gwaith caled, eu brwdfrydedd a’u cyfraniad i achlysur mor ystyrlon. Hoffem ddiolch yn fawr i Will Price am wneud hyn yn bosibl.”
Dywedodd Ceri Pritchard o Ysgol Emmanuel: “Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn cael cymryd rhan yn yr arddangosfa, gan greu pabïau o boteli plastig wedi’u hailgylchu cyn eu gosod yn y gerddi ar Ddiwrnod y Cofio. Roedd yn gyfle gwerthfawr i gyfrannu at brosiect cymunedol ystyrlon.”
