23/11/2026
O hadau lleol i ddyfodol gwyrddach: Planhigfa Goed Llanelwy
Er mwyn nodi Wythnos Genedlaethol y Coed, mae Keegan Blazey, Swyddog Planhigfa Goed yn ysgrifennu yn Llais y Sir i sôn am rôl planhigfa goed Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy. Mae o’n sôn sut mae tyfu coed brodorol o hadau a gasglwyd yn lleol yn gallu cefnogi bioamrywiaeth, dal carbon a helpu i greu dyfodol gwyrddach i’r Sir.
Mae Planhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yn casglu hadau sy’n tarddu’n lleol o Sir Ddinbych ac yn eu tyfu gyda’r bwriad o roi hwb i fioamrywiaeth a dal carbon yn ein hamgylchedd. I ddathlu Wythnos Genedlaethol y Coed, rydym wedi llunio’r erthygl yma i nodi beth mae ein planhigfa yn gallu ei gyflawni.
Yn flynyddol gallwn dyfu tua 4000 o goed brodorol wedi’u dewis â llaw o werth cadwraeth uchel, sydd wedi addasu’n enetig i’n hardal leol dros filoedd o flynyddoedd.
Yn gyffredinol mae gan goed nifer o systemau ecosystem, rhai sy’n cael eu crybwyll gan Gyfoeth Naturiol Cymru yw:
- helpu i amddiffyn safon cyflenwadau dŵr yfed (rheoleiddio)
- helpu i reoli digwyddiadau llifogydd (rheoleiddio)
- yn dal llygryddion niweidiol a gwella safon yr aer (rheoleiddio)
- ddarparu cysgod, lloches, rheoli tymheredd ac yn amsugno sain (darparu)
- sefydlogi pridd, lleihau erydu a thirlithriadau (rheoleiddio)
Heb goed yn darparu’r gwasanaethau ecosystem gwerthfawr yma, byddem yn cael ein gorfodi i’w darparu’n artiffisial ein hunain, er enghraifft amddiffynfeydd llifogydd. Yn ystod y cyfnodau o dywydd poeth eithriadol y llynedd, dwi ddim yn meddwl y byddai neb yn cwestiynu gwerth coed trefol yn darparu cysgod, neu lwyn o goed derw yn gadael i aer oer lifo mewn i’ch cartref. Felly rydym angen i’n cynefinoedd a bioamrywiaeth naturiol aros yn gyfan, neu fel arall pwy fydd yn glanhau a rheoleiddio ein haer, dŵr a phridd?
Yn ogystal â’r gwasanaethau ymarferol yma mae’r gwasanaethau yn eu darparu, maent hefyd yn darparu gwerth bioamrywiol, er enghraifft, cynefin i famaliaid, adar, anifeiliaid di-asgwrn cefn a phlanhigion. Yn eu tro, mae’r holl greaduriaid rhyfeddol yma’n darparu eu gwasanaeth ecosystem ymarferol i ni, er enghraifft mae ystlumod yn ardderchog yn cadw lefel gwybed mân ar lefel y gellir ei reoli. Heb y coed, ychydig o opsiynau fyddai gan y creaduriaid yma o ran ble i fyw.
Gan mai dim ond coed brodorol lleol yr ydym ni’n eu tyfu, mae rhywogaethau anifeiliaid di-asgwrn cefn, mamaliaid ac adar y gellir eu cefnogi gan ein coed yn llawer mwy na choed nad ydynt yn frodorol. Er enghraifft, mae’r goeden dderw yn cefnogi 2300 o rywogaethau pan mae’n aeddfed, o gymharu â choed castan sydd yn goeden anfrodorol wedi’i naturoli a dim ond yn cefnogi 11 o rywogaethau.
Dim ond hanner y frwydr yw tyfu coed, y rhan nesaf yw eu plannu yn rhywle ystyrlon.
Caiff darn o dir ei ystyried yn goetir yn swyddogol os yw’n cyrraedd 20% o orchudd canopi, sydd tua 100 coeden fesul hectar. Mae hyn yn golygu y gall ein planhigfa lenwi 400 hectar (40,000 wedi’i rannu gan 100) y flwyddyn. O roi hyn mewn i gyd-destun, nid yw 20% o orchudd canopi yn goetir trwchus, amcangyfrifir bod gan Lundain 19.6% o orchudd canopi (https://www.london.gov.uk/who-we-are/what-london-assembly-does/london-assembly-research-unit-publications/tree-canopy-cover-london) a dyma’r gorchudd canopi isaf a argymhellir yn y DU.
Trwy blannu coedwig o 100 coeden fesul hectar (20%) gyda gorchudd canopi gan ddefnyddio’r cymysgedd o goed rydym ni’n eu tyfu yn ein planhigfa (Derw, Bedw, Helyg, Gwern, Aethnen, Afalau Surion, Cerddin, Cyll, Draenen Wen), rydym yn amcangyfrif ein bod yn gwneud y canlynol:
- Cefnogi dros 2300 o rywogaethau gwahanol o bryfetach, mamaliaid, adar, planhigion, cennau, ffwng. Dydi bioamrywiaeth ddim yn pentyrru i gamu i’r adwy, ond bydd y coed sy’n cefnogi’r goeden dderw yn darparu gwytnwch rhag ofn y bydd yna afiechyd neu aflonyddwch sy’n lladd y goeden dderw. Maent hefyd yn darparu ffynonellau o fwyd a chynefin strwythurol ar wahanol lefelau ac ar adegau gwahanol o’r flwyddyn ar gyfer bioamrywiaeth.
- Mae coed yn rhyng-gipio dŵr glaw yn eu gorchuddion (gan leihau faint sy’n cyrraedd y ddaear o hyd at 45%), ac mae eu systemau gwreiddiau yn cynyddu ymdreiddiad i’r pridd, gan leihau dŵr ffo o 99% o’i gymharu â tharmac neu concrid.
- Yn arbed tua 78.8 tunnell o CO2 dros 100 mlynedd ar hyn o bryd.
- Mae coed llydanddail brodorol yn dal deunydd gronynnol ac yn amsugno nwyon niweidiol megis nitrogen deuocsid (o geir), yn atal salwch anadlol ac yn lleihau’r galw ar y GIG.
Mae Llywodraeth Cymru yn anelu i blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 i gynorthwyo â nodau carbon sero net. Eleni, dim ond 680 hectar o goetir newydd a grëwyd. Mae hyn y llai na 10% o’r targed. Mae hi’n dasg anodd dod o hyd i le i goed yn y DU, er gwaetha’r buddion niferus mae hi yr un mor galed sefydlu coed ar ôl eu plannu. Dyma lle y gall planhigfeydd cymunedol gamu i mewn a dechrau gwneud gwahaniaeth bychan tuag at y nodau yma ar lefel gymunedol.
Pa orchudd canopi sydd gan eich tref neu bentref? Oes yna unrhyw lefydd allai dderbyn coed?
Ydych chi’n adnabod rhywun yn rhywle sydd angen 20% o orchudd canopi.
Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r erthygl yma sy’n ceisio cyfleu gwerth coed, cofiwch mai damcaniaethol yw hyn, ac mewn gwirionedd, nid yw plannu coed mor hawdd ag y mae’n swnio.