24/11/2026
Bwrw iddi gyda chynlluniau natur ysgol gyda chyllid gan Network Rail

Mae cyllid ar y trywydd iawn i helpu i gynllunio ar gyfer gwaith natur mewn ysgol yn Sir Ddinbych.
Yn ôl y Cyngor Coed, mae cefnogaeth ariannol o Gronfa Plannu Coed Cymunedol Network Rail ar y trywydd iawn i gyrraedd Cyngor Sir Ddinbych i helpu â gwaith hinsawdd a natur yn Ysgol Gynradd Hiraddug yn Nyserth.
Mae’r prosiect yn bosibl yn sgil cefnogaeth grant gan y Cyngor Coed a Chronfa Plannu Coed Cymunedol Network Rail.
Mae tîm bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych wedi creu cynlluniau amlinellol ar gyfer nodweddion newydd ar dir yr ysgol i helpu natur a chynyddu gwytnwch yn erbyn bygythiadau newid hinsawdd, ac mae arolygon a gwaith dylunio manwl bellach wedi dechrau.
Bydd cynefinoedd newydd yn cynnwys gwrychoedd, coed safonol, coed ffrwythau, pyllau, dolydd blodau gwyllt a strwythurau helyg byw ar gyfer chwarae antur. Bydd dros 1,500 o goed o rywogaethau gwahanol yn cael eu plannu yn yr ysgol.
Bydd y grant o £7,832 a ddyfarnwyd yn talu am gostau’r coed ac amrywiol bethau cysylltiedig megis pyst, amddiffynwyr, gwiail a thomwellt. Dyma’r grant mwyaf a ddyfarnwyd o’r Gronfa yn y rhanbarth a’r grant mwyaf a ddyfarnwyd yn genedlaethol ar gyfer prosiect ysgol.
Fe fydd disgyblion o Ysgol Hiraddug yn ymuno â staff ceidwaid bioamrywiaeth a chefn gwlad y Cyngor i helpu i greu’r nodweddion newydd yn y tymor plannu coed sydd newydd gychwyn, ac sy’n cael ei ddathlu’r wythnos hon yn rhan o Wythnos Genedlaethol y Coed 2026.
Thema Wythnos Genedlaethol y Coed eleni yw - ‘coed cyfagos’ - ac mae’n ymwneud â dathlu’r coed sy’n rhan o’n bywydau bob dydd. O goed ar diroedd ysgolion, mewn cymunedau a gofodau gwyrdd lleol, i’r rhai ar hyd ein strydoedd ac yn ein parciau, mae’r coed hyn yn gwneud gwir wahaniaeth i’r lle rydym yn byw.
Maent yn darparu cartref i fywyd gwyllt, gwella ein lles a helpu i greu gofodau gwyrddach, iachach. Mae Wythnos Genedlaethol y Coed yn gyfle i sylwi, gwerthfawrogi a gweithredu ar gyfer y coed ar ein stepen drws.
Dywedodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Fe wyddom o wneud gwaith tebyg mewn ysgolion eraill yn Sir Ddinbych y bydd y diwrnodau plannu yn hwyliog ac yn addysgiadol, gan helpu i gefnogi cwricwlwm addysg amgylcheddol a gweithgareddau ysgol goedwig a rhoi ymdeimlad o berchenogaeth a balchder i blant yn eu hamgylchedd wrth i’r nodweddion dyfu ac esblygu a gadael gwaddol cymunedol parhaus.
"Rwyf wedi gweithio gyda disgyblion Ysgol Hiraddug o'r blaen i blannu dol blodau gwyllt er mwyn helpu natur o amgylch eu hysgol, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld eto i blannu coed – gan greu cymysgedd gwych o gynefinoedd i'r plant ar gyfer dysgu yn yr awyr agored."
Dywedodd Rheolwr Prosiect Creu Coetir, Keith Bennett o Dîm Newid Hinsawdd y Cyngor: “Fe fydd y coed yn helpu i amsugno nwyon tŷ gwydr, darparu cynefin ychwanegol i fywyd gwyllt, a helpu i wella ansawdd yr aer. Pan fyddant wedi aeddfedu, byddant yn cynnig cysgod: manteision addasu pwysig i wneud yr ysgol yn fwy gwydn i ymdopi â thywydd eithafol tebygol yn y dyfodol yn sgil cynhesu byd eang.”
Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ar ddeall fod y Gronfa wedi cael nifer o geisiadau eleni, felly rydym yn falch iawn fod y prosiect hwn yn bosibl yn sgil cefnogaeth y Cyngor Coed a Chronfa Plannu Coed Cymunedol Network Rail. Bydd y gwelliannau yn cefnogi adferiad natur yn lleol a bydd o fudd i les a dysg disgyblion presennol a disgyblion y dyfodol.”