19/06/2025
Deputy First Minister opens Prestatyn's coastal defence scheme
Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies AS, â Phrestatyn heddiw (19 Mehefin) i agor y cynllun amddiffyn yr arfordir yn swyddogol.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae wedi bod yn wych gallu croesawu’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS i agor y cynllun amddiffyn arfordir ar gyfer Prestatyn heddiw. Bydd yn cynllun hwn yn amddiffyn miloedd o gartrefi a busnesau yn y dref.
“Hoffwn ddiolch i Balfour Beatty. Mae’r prosiect wedi ei gwblhau yn gynnar ac o dan y gyllideb, sy’n gamp enfawr gyda phrosiect seilwaith enfawr fel hwn.
“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a’u swyddogion am weithio’n galed gyda’n tîm yma yn Sir Ddinbych i gyflawni cynllun a fydd yn trawsnewid bywydau pobl. Bydd gan bobl sy’n byw ar yr arfordir dawelwch meddwl nawr ynghylch risgiau llifogydd a gallant hefyd fforddio cael yswiriant ar gyfer eu cartrefi - mae’n gynllun rhagorol sydd o fudd mawr i’r bobl leol.”



